Mynd i'r cynnwys
Home » Dychmygwch hyn: Gweithgareddau mapio mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion

Dychmygwch hyn: Gweithgareddau mapio mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion

  • Flog

Sut mae’r Dull Ysgol Gyfan wedi cael ei dderbyn mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion? Defnyddiodd Amy Edwards a’r tîm ansoddol ddulliau cyfranogol creadigol i ddod o hyd i’r atebion.

Dros y naw mis diwethaf, mae ein tîm ansoddol (fy hun, Dr Rachel Brown; Jess Lennon a Jordan Van Godwin) wedi bod yn gweithio gydag ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion i ymchwilio i’w profiadau o gyflwyno a gweithredu’r Dull Ysgol Gyfan. Mae hyn yn rhan o werthusiad Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, y gellir darllen amdano yma: https://decipher.uk.net/cy/flog/asesu-dull-yr-ysgol-gyfan-o-drin-a-thrafod-iechyd-a-lles-y-meddwl-2/.

Gan adlewyrchu gwaith ansoddol blaenorol yr astudiaeth gydag ysgolion prif ffrwd ledled Cymru, gwnaethom ddewis pedwar lleoliad i ddarparu astudiaethau achos – dwy ysgol arbennig a dwy uned cyfeirio disgyblion. Fel rhan o’r astudiaeth, llwyddom i gysylltu â grŵp bach o ddysgwyr mewn ysgol arbennig i siarad â nhw am leoedd a mannau diogel yn eu hysgolion. Mae’r lleoliadau hyn yn cynrychioli maes sydd heb fawr o ymchwil iddo yng Nghymru, o ran gweithio gyda dysgwyr a staff, ac roedden am ddarganfod mwy am pam roedd hyn yn wir, a beth allem ei wneud i’w newid.

Cynllunio’r gweithgaredd

Penderfynon ni addasu’r gweithgaredd mapio ‘mannau a phobl ddiogel yn fy ysgol’ (https://decipher.uk.net/cy/newyddion/yn-ddiogel-fel-ysgolion-ble-a-gyda-phwy-mae-disgyblion-yn-teimlon-fwyaf-diogel/), a ddefnyddiwyd gennym ni o’r blaen gyda dysgwyr cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Mae gweithgareddau mapio yn ddull ymchwil ansoddol a chyfranogol lle mae cyfranogwyr yn cynrychioli eu profiadau yn weledol, gan helpu i nodi lleoedd, perthnasoedd a theimladau pwysig a allai fod yn anodd eu dal trwy drafodaeth yn unig. Gwnaethon ni sgaffaldio’r gweithgaredd gyda chyfarwyddiadau, arwyddion ac adnoddau clirach, gan gynhyrchu ymarfer mwy strwythuredig ond yn dal yn greadigol.

Gwnaethon recriwtio partner creadigol, Hollie Withers o Pawb Arts. Mae Hollie wedi gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd o’r blaen ac mae ganddi sgiliau wrth helpu ymchwilwyr i gynhyrchu allbynnau creadigol i esbonio systemau cymhleth. Mae ganddi hefyd lawer o brofiad o redeg grwpiau celf gyda phlant a phobl ifanc.

Cyn ymweld â’r ysgol arbennig gyntaf, bûm ar ymweliad rhagarweiniol i drafod y gweithgaredd gyda’r dirprwy bennaeth.

Sut aeth hi?


Ar y diwrnod, gwnaethon osod y byrddau fel bod grŵp bach o ddysgwyr gyda’i gilydd. Roedd hyn er mwyn hwyluso’r drafodaeth a bod yn agos ati. Gosodwyd amrywiaeth eang o ddeunyddiau celf ar y bwrdd i wneud iddo edrych yn ddifyr ac yn groesawgar. Roedden ni wedi symleiddio’r broses er mwyn osgoi cyflwyniadau hir, felly fe wnaethon ni gyflwyno ein hunain yn fyr, gan wahodd y disgyblion i eistedd i lawr a chwblhau’r ffurflenni cydsynio. Cymerodd yn hirach nag a ragwelwyd i gael cydsyniad y dysgwyr i’r gweithgaredd, a sylweddolon ni fod angen ystyried y broses hon fwy o ran sut y gellid ei gwneud yn fwy cynhwysol. Er enghraifft, nid oedd pob dysgwr yn gallu defnyddio pen i ysgrifennu ar ffurflen na chofio ei ddyddiad geni.

Roedd pob dysgwr â gweithiwr cymorth, gan adlewyrchu ymarfer arferol yn yr ysgol. Roedd un dysgwr yn cyfathrebu ar lechen a oedd â lluniau a meddalwedd y gellid ei hactifadu gan lais i’w alluogi i wrando ar eraill yn yr ystafell a chyfathrebu â nhw. Roedd dysgwr arall wedi ymddieithrio drwy gydol yr amser ond llwyddodd i ddefnyddio’r adnoddau celf i gynhyrchu darlun o gymeriad anime. Cafodd eraill drafodaethau gyda’u gweithwyr cymorth a’r tîm ymchwil am y lleoedd yr oeddent yn eu hoffi a’r lleoedd nad oeddent yn eu hoffi ar dir yr ysgol. Arsylwodd y tîm ymchwil drafodaethau, gan siarad â’r staff a’r dysgwyr a gofyn cwestiynau iddynt am eu dewisiadau ar gyfer mannau a phobl ddiogel.

Ar ôl 20 munud o’r gweithgaredd hwn, cytunwyd i gael un rownd olaf o gwestiynau lle gofynnwyd i’r dysgwyr ddefnyddio llun o unigolyn ar ffon lolipop i’w cynrychioli ac ystyried ‘Beth fyddech chi’n ei wneud pe baech chi’n bennaeth am ddiwrnod?’ Ymatebodd y dysgwyr yn dda i hyn – roedd y syniadau’n cynnwys ‘cau’r ysgol’ a ‘pizza i bawb’! I’r mwyafrif ohonyn nhw, roedd hi’n haws siarad drostyn nhw eu hunain fel cymeriad ffon ac fe wnaethon nhw roi rhai syniadau creadigol iawn. Efallai fod y ffyn yn caniatáu iddyn nhw ddweud pethau na fydden nhw’n eu dweud wrth fod yn nhw eu hunain.

Sicrhaodd rôl y gweithwyr cymorth yn y gweithgaredd hwn fod y dysgwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ychydig mwy ar pam eu bod wedi dewis y bobl neu’r lleoedd hyn ar gyfer eu mapiau, ac roedd y trafodaethau a ddalwyd gan y tîm ymchwil yn amlygu fod y rhesymau y tu ôl i’r rhain yn gymhleth ac nid oeddent o reidrwydd yn adlewyrchu sut roeddent yn teimlo’n gyffredinol, er mai gwaith y dysgwyr eu hunain oedd y mapiau ac yn dangos eu meddyliau a’u teimladau ar y foment honno. Mae’r gweithwyr cymorth gyda’r dysgwyr drwy gydol y dydd a gallent ddarparu lefel arall o ddealltwriaeth ynghylch y profiad ysgol a hoffterau a chasbethau’r dysgwyr.

Myfyrio ar y mapiau

Rhoddodd mapiau’r dysgwyr lawer o fewnwelediadau i hoffterau a chasbethau’r dysgwyr.

  • O ran yr hyn a ddangoswyd gan fapiau eu hysgolion, roedd ystod amrywiol o bobl a lleoedd wedi’u hamlygu i gael sylw, gyda rhan o hyn yn tueddu i fod yn negyddol.
  • Roedd yr ysgol yn cwmpasu ystod o brofiadau, o fynd ar y bws, cael bwyd yn yr ysgol, a mynd i ardaloedd yn yr awyr agored ac i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau.
  • Ni nododd yr un ohonynt bynciau neu feysydd penodol o’r cwricwlwm fel ‘celf’ neu ‘gerddoriaeth’ fel rhai hapus neu ddiogel, ond daeth yr ystafelloedd dosbarth i’r amlwg yn gyson fel rhai diogel, gan dynnu sylw at yr angen am fannau diogel i ddysgu ynddynt.
  • Soniodd llawer ohonyn nhw am y ffreutur a’r bwyd. Roedd rhai wrth eu bodd â’r bwyd (yn enwedig y pizza) ond roedd eraill yn nodi nad oeddent yn ei hoffi pan oedd eu harcheb cinio yn anghywir.
  • Cafodd yr ardd sylwadau cadarnhaol a negyddol hefyd, gydag un dysgwr yn ysgrifennu bod ‘yr ardd yn ddiflas’ ac un arall yn rhoi wynebau gwenu a chalonnau o amgylch yr ardd.
  • Rhannodd un dysgwr ei luniau yn ‘bethau rwy’n eu hoffi’, a oedd yn cynnwys y staff a’i ffrindiau, ac ‘yn dibynnu sut rwy’n teimlo’, a oedd yn cynnwys yr ystafell ddosbarth, y maes chwarae a’r ffreutur.
  • Roedd trafnidiaeth yn cael sawl sylw hefyd; er na chofnodwyd llawer ar y mapiau gwirioneddol, bu llawer o drafodaeth yn yr ystafell amdani wrth i’r dysgwyr weithio. Roedd rhai’n mwynhau’r teithiau tacsi a bws i’r cartref ac yn ôl, ac eraill yn eu cael nhw’n swnllyd ac yn llethol.

Cymerodd Hollie yr holl ddarluniau a wnaed gan y dysgwyr a, gyda chymorth ei nodiadau a’i harsylwadau ei hun, cynhyrchodd graffigyn yn dangos sut y digwyddodd y broses yn yr ystafell yn ogystal â chofnodi’r syniadau a roddodd y dysgwyr. Drwy gael yr agwedd ddeuol hon i’r broses a’r syniadau canlyniadol, roedd y graffigyn yn cynrychioli’r dysgwyr mewn ffordd realistig a di-feirniadol ac yn dal creadigrwydd a dyfnder eu syniadau ynghylch llesiant.

Y prif bwyntiau

Dysgon ni lawer o’r gweithgaredd hwn a gallai ein myfyrdodau fod yn ddefnyddiol i ymchwilwyr eraill sy’n awyddus i weithio gyda dysgwyr yn y lleoliadau hyn sydd heb fod yn destun llawer o ymchwil.

  • Roedd hyd y gweithgaredd wedi’i gynllunio’n dda, gydag ugain munud yn briodol.
  • Roedd mynd yn syth i mewn a hepgor y cyflwyniadau hir ynglŷn â’r hyn yr oeddem yn ei wneud a pham yn golygu bod y gweithgaredd wedi’i gyflwyno fel tasg gelf yn hytrach na grŵp ffocws neu sefyllfa cyfweliad grŵp fwy ffurfiol.
  • Cytunon ni hefyd y byddai rhannu’r dysgwyr yn grwpiau llai o ddau neu dri yn hytrach na grŵp mwy o chwech yn well yn y dyfodol gan fod llawer o bobl wedi ymgasglu o amgylch un bwrdd bach.

    Roedd y gweithgaredd hwn yn ddiddorol iawn i’w hwyluso ac, er bod angen mwy o fyfyrio ac addasu i fireinio hyn fel dull ymchwil creadigol, mae’r canfyddiadau cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol o ran datgloi profiadau a dangos profiad mwy cyfannol o fod yn yr ysgol.