Mynd i'r cynnwys
Home » ‘Does dim ots ble’r ydych chi yn eich gyrfa neu beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni, gall cwrs byr DECIPHer helpu i’ch cael chi yno.’

‘Does dim ots ble’r ydych chi yn eich gyrfa neu beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni, gall cwrs byr DECIPHer helpu i’ch cael chi yno.’

  • Flog

Mae Sara James yn Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol a Deiliad Ymchwilydd sy’n Dod i’r Amlwg gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Yma, mae hi’n rhannu ei phrofiad o gwrs byr DECIPHer.

Ym mis Mehefin 2026 roeddwn i’n ffodus i fod ar gwrs pum diwrnod DECIPHer Arloesi Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Datblygu, Gwerthuso, Addasu a Gweithredu. Dw i ar gam cymharol gynnar yn fy ngyrfa ymchwil, ar ôl cwblhau astudiaeth dichonoldeb i ddeall effaith aros am fynediad at wasanaethau therapi i gleifion cyhyrysgerbydol allanol, drwy Gymrodoriaeth Newydd i Ymchwil flaenorol RCBC Cymru. Ar hyn o bryd rwy’n cynllunio astudiaeth ddoethurol sy’n archwilio mynediad at y gwasanaethau hyn ledled Cymru gyda chefnogaeth Dyfarniad Ymchwilydd sy’n Dod i’r Amlwg gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Am le gwych i ddysgu!

Dw i’n ystyried fy hun yn newyddian brwd yn y byd ymchwil. Fodd bynnag, dw i’n gwybod fy mod am ddylanwadu ar newid systemau’n gadarnhaol ac ystyrlon trwy ddeall a chyflwyno newid, a deall os yw’r sefyllfa wedi gwella yn sgil y newid hwnnw. Dw i am ddysgu am yr hyn sydd angen ei newid ar lawr gwlad, yn fy rôl yn Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol. Drwy wneud hynny, dw i’n gobeithio fy mod yn cyfrannu at bontio’r bwlch rhwng ymarfer clinigol a’r byd academaidd. Roeddwn felly’n awyddus i ddysgu am wyddoniaeth gweithredu, ond fyddwn i byth wedi dychmygu y byddai’r cwrs hwn yn trawsnewid fy ffordd o feddwl a gwneud.

Argraffiadau cyntaf

Cyrhaeddais yn llawn brwdfrydedd ddydd Llun gyda choffi yn fy llaw ac yn barod i ddysgu. Fi mae’n debyg oedd yr ymchwilydd lleiaf profiadol yno, a wnaeth i mi bryderu braidd. Ond yn fuan iawn, ynghyd â’r trafodaethau grŵp a thaflu syniadau, helpodd y trosolwg o’r pwnc ar y diwrnod cyntaf fi i sylweddoli bod gen i rywbeth i’w gyfrannu, er bod gen i lawer i’w ddysgu. Trefnwyd sesiynau dydd Mawrth i ddydd Gwener yn systematig fel bod pob cam o’r broses, o gynllunio i werthuso, yn cael ei archwilio’n ddyfnach ac yn ddilyniannol, gan ein helpu i ymgyfarwyddo â’r broses.

Roedd pob un o’r siaradwyr yn ysbrydoledig ac yn dangos dawn amlwg mewn gwaith academaidd, yn ogystal â gwyleidd-dra yn eu llwyddiant a’u cyflawniadau; ac roedden nhw’n ddynol! Dysgais bopeth y gallwn gan bob un ac ar ôl lawrlwytho 47 (ie, 47!) tudalen o nodiadau, a ffolderi ar ffolderi o erthyglau ymchwil trylwyr, dw i’n teimlo bod gwaddol y cwrs yn dal i fyw yn fy ymennydd ac ar fy mwrdd gwaith. Mae’r nodiadau’n parhau ar agor ar fy ngliniadur, yn barod i’w rhannu gydag unrhyw un a allai elwa o’u clywed. Mae hyn yn cynnwys fy Arweinydd Gwasanaeth yn GIG Cymru, sydd bellach yn gwybod sut y gall modelau rhesymeg a mapio achosol hefyd gynorthwyo i gynllunio prosiectau lefel gwasanaeth. Dw i hyd yn oed wedi rhannu’r dysgu gyda fy ngŵr, sydd wedi dysgu sut i ddangos gwerth, y tu hwnt i gost fesul awr, mewn plymio (diolch, modiwl economeg iechyd).

Meddwl = trawsnewid

Grwpiau trafod er mwyn ennill

Fel y soniais, dw i’n gweithio ar hyn o bryd ar gais am astudiaeth ddoethurol. Cyn dod ar y cwrs, roedd diffyg manylder ac eglurder yn y cais o ran beth a sut y byddwn yn ateb y cwestiwn ymchwil. Yn dilyn y cwrs, dw i wedi datblygu tri phecyn o astudio trylwyr, yn seiliedig ar luniadau damcaniaethol wedi’u llywio trwy gynnwys cleifion a’r cyhoedd. Mae pob pecyn yn mynd ati i ateb nodau sydd wedi’u diffinio’n glir, yn gadarn ac yn systematig, gyda diweddbwynt clir; mae’n haws i’r darllenydd eu gwerthfawrogi drwy ddefnyddio modelau rhesymeg atodol. Mae dulliau a gynlluniwyd yn flaenorol wedi’u trawsnewid i ystyried yr hyn dw i’n ei wybod erbyn hyn am gymhlethdod cysylltiad data. Cyn y cwrs, roedd gen i ddealltwriaeth sylfaenol o rai o’r cymhlethdodau hyn a doeddwn erioed wedi clywed am rai o’r lleill. Felly, oedd, roedd gen i lawer i’w ddysgu, ond roedd y cwrs yn fy ngalluogi i wneud hynny.


Un o’r pethau mwyaf trawiadol am y cwrs yw ble bynnag roedd rhywun i’w gweld ar eu llwybr gyrfa, roedden nhw’n canfod gwerth drwy fod yno. Roedd cynrychiolwyr â 30 mlynedd o brofiad yn yr ystafell yn ysgrifennu nodiadau’n frwdfrydig neu’n gofyn cwestiynau yn aml er mwyn gwella eu gafael ar yr hyn oedd yn cael ei rannu. Roedd yn teimlo bod y criw cyfan o siaradwyr yn ffrindiau i mi erbyn diwedd yr wythnos, a rhwng hyn a’r cyfeillgarwch a dyfodd gyda’r cynrychiolwyr eraill, roeddwn i’n teimlo’n rhan o gymuned. Roeddwn i’n teimlo mor ddiflas wedyn ac yn ysu am gael mynd yn ol!

Gwersi terfynol

Er y bydd llawer o’r cynnwys manwl heb os yn profi’n fwy gwerthfawr wrth i fy ymchwil ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf (nodyn i mi fy hun — cofia wneud copi o’r nodiadau), byddwn yn argymell y cwrs yn gryf i unrhyw un sy’n ymwneud ag ymchwil, gan gynnwys y rhai sydd ar gam cynnar ar eu taith academaidd. Ar hyn o bryd dw i ar frig o gynhyrchu, wedi fy nghymell gan yr hyn dw i wedi’i ddysgu.’

Fodd bynnag, nid maint yr allbynnau dilynol yn unig sy’n werthfawr, ond y ffaith fy mod bellach yn deall sut mae cynllunio, gweithredu a gwerthuso trylwyr yn cyd-fynd â’i gilydd yn y broses fwy o ddatblygu ymyriadau a chyflawni ymchwil: Mae’n rhaid i ni wybod ble’r ydyn ni i wybod ble rydyn ni’n mynd. Do, cafwyd eiliadau o feddwl ‘Pam nad ydw i’n gadael hyn i’r bobl sy’n gallu ei wneud’ – ac mae’r eiliadau hynny’n dal i ddod – ond mae yna adegau hefyd lle dw i’n meddwl ‘Rwyt ti’n gallu gwneud synnwyr o hyn, Sara’ – ac mae hynny’n lle hollol wahanol i ble’r oeddwn i cyn y profiad dysgu.

Os ydych yn ystyried mynd ar y cwrs hwn, peidiwch â meddwl ymhellach — gwnewch gais. Does dim ots ble’r ydych chi yn eich gyrfa neu beth rydych chi’n gobeithio ei gyflawni, gall cwrs byr DECIPHer helpu i’ch cael chi yno. Byddwch yn cwrdd â chymaint o bobl o’r un anian, byddwch yn cael hwyl wrth ddysgu, a bydd y dysgu’n parhau ymhell y tu hwnt i’r wythnos rydych chi yn yr ystafell. Diolch Decipher, dw i’n fwy na ddiolchgar.

Rhagor o wybodaeth am y cyrsiau byr: Cyrsiau byr Decipher.

Cardiff University, Health and Care Research Wales and Welsh Government logos