
Bydd yr Athro Evans yn arwain y rhaglen datblygiad personol a phroffesiynol ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Mae’r Athro Evans (Athro yn y Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gofodol, Prifysgol Caerdydd, sydd newydd ei ffurfio) yn Ddirprwy Gyfarwyddwr DECIPHer a Thîm Adolygiadau Systematig Ymchwil Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).). Mae ganddi hefyd rolau arwain yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed a Chydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd (HDRC) Rhondda Cynon Taf. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu ymyriadau i atal yr anghydraddoldebau iechyd y mae cymunedau dan anfantais yn aml yn eu profi.
Wrth fyfyrio ar ei phenodiad, dywedodd Rhiannon: “Mae’n fraint llwyr dod yn Arweinydd Academaidd Crwsibl Cymru. Ar adeg pan fo prifysgolion dan bwysau cynyddol, mae’n bwysicach nag erioed bod rhaglenni fel hyn yn bodoli. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth feithrin talent a chydweithio a chreu cyfleoedd i ymchwilwyr ddatblygu rhwydweithiau cefnogol ledled disgyblaethau a sefydliadau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm Crwsibl Cymru, cyn-fyfyrwyr a chyfranogwyr y dyfodol i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ffynnu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil.”
Mae Rhiannon yn olynu’r Athro Jon Gillard, cyn-fyfyriwr Crwsibl Cymru, a Phennaeth Ysgol y Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol newydd. Ers 2011, mae Crwsibl Cymru wedi cefnogi arweinwyr ymchwil sy’n dod i’r amlwg ledled Cymru, gan ddod â 30 o ymchwilwyr ynghyd bob blwyddyn i ddatblygu sgiliau arwain, creu rhwydweithiau ac annog cydweithio arloesol, trawsddisgyblaethol. Darllenwch ragor o wybodaeth am y rhaglen a sut i wneud cais.
Darllenwch fwy am y rhaglen a sut i wneud cais yma: https://welshcrucible.org.uk/cy/home-hafan-cymraeg/.
Darllenwch flog Cymrawd Ymchwil DECIPHer Dr Hayley Reed ar fod yn rhan o garfan 2024: https://decipher.uk.net/cy/flog/dr-hayley-reed-crwsibl-cymru-a-fi/.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Brifysgol Caerdydd.