Mynd i'r cynnwys
Home » Alpha – Datblygu Sgiliau Ac Ysbrydoliaeth Gyrfa

Alpha – Datblygu Sgiliau Ac Ysbrydoliaeth Gyrfa

  • Flog

Mae DECIPHer (Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso, Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd) yn rhedeg ALPHA (Cyngor sy’n Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd), grŵp cynghori ymchwil sy’n cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru, ers 2010. Mae’n dod â phobl ifanc at ei gilydd i drafod, trafod a rhannu barn ar bynciau iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn llywio ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu ymchwil gyfredol a newydd gan DECIPHer.

Cymerodd Sophie Jones a Safia Ouerghi ran yn ALPHA cyn symud ymlaen i rolau yn DECIPHer, yn 2019 a 2021 yn y drefn honno. Mae Sophie bellach yn Uwch Swyddog Cyfranogiad y Cyhoedd tra mae Safia yn Gynorthwyydd Ymchwil ers ychydig fisoedd. Buon ni’n siarad â nhw i gael gwybod rhagor am ALPHA a’r profiadau a roddodd iddyn nhw, yn ogystal â natur eu swyddi presennol, pwysigrwydd ymchwil DECIPHer a’u huchelgeisiau ymchwil eu hunain i’r dyfodol.

Sophie Jones

Mae Sophie yn hanu o’r Coed Duon ac wedi cymhwyso ar lefel gradd fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol. Mae wedi cwblhau ei TAR AHO ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddiweddar ac ar hyn o bryd mae’n gwneud MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol. Ymunodd ag ALPHA yn 14 oed, heb wybod sut byddai’r profiad yn ysbrydoli ac yn llywio ei gyrfa yn y dyfodol.

“Pan ymunais ag ALPHA yn 14 oed, do’n i ddim yn siŵr iawn beth oedd e na beth fyddwn i’n ei gael ohono. Ond fe wnes i elwa cymaint. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd ond mae ALPHA yn grŵp anhygoel ac mae mor unigryw. Fe ddatblygais yn broffesiynol ac yn bersonol o gymryd rhan.

“Yn gyntaf, fe ges i grŵp cyfeillgarwch newydd sbon ac fe wnes i ffrindiau am oes. Ro’n i’n gallu cwrdd â phobl eraill o bob rhan o ranbarth De Cymru a chlywed eu safbwyntiau ar ymchwil. Ro’n nhw’n yn aml yn wahanol i’m safbwyntiau i, a oedd wedi’u llywio gan dyfu i fyny mewn tref fach yn y cymoedd. Mae ehangu fy rhwydwaith a’r sgiliau rhyngbersonol a bywyd a lwyddais i’w meithrin dros gyfnod o amser wedi bod yn amhrisiadwy. Pan ddechreuais ALPHA am y tro cyntaf, do’n i erioed wedi teithio i Gaerdydd heb fy mam, doedd gen i ddim llawer o hyder ac ro’n i’n swil iawn. Dyw hynny ddim yn wir rhagor, yn bendant!

“Ochr yn ochr â’r elfen bersonol, fe roddodd ALPHA yrfa i mi, a hynny’n anfwriadol. Ar ôl yr ysgol, fe es i i’r coleg ond fe adawais yn gynnar iawn. Am ychydig fisoedd, roeddwn i’n NEET (heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) ond ro’n i’n dal i fynd i sesiynau ALPHA. Dyma’r adeg yr ymgeisiais am fy ngradd mewn gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Er nad o’n i’n bodloni’r cymwysterau gofynnol i gael fy nerbyn, fe ges i gynnig cyfweliad ac fe siaradais am fy mhrofiad ALPHA a’m hymwneud ag ymchwil iechyd cyhoeddus pobl ifanc. Fe ges i gynnig diamod. Dyma ddechrau fy niddordeb mewn ymchwil a ffyrdd cydweithredol o weithio, ac mae fy ngradd, TAR, fy astudiaethau meistr a’m swydd i gyd yn ymwneud â phobl ifanc, y gymuned ac iechyd y cyhoedd.

“Fe adawais ALPHA a dod i weithio i DECIPHer ym mis Ionawr 2019, fel y gweithiwr ieuenctid a fyddai’n rhoi sesiynau i ALPHA. Ro’n i’n gyffrous iawn fy mod i’n gallu cysylltu fy mhrofiad â’m sgiliau a llunio dyfodol y grŵp. Ym mis Medi eleni, fe ddes i’n Uwch Swyddog Cyfranogiad y Cyhoedd, gan adael y sector gwaith ieuenctid ond gan wneud newid cyfeiriad cyffrous er mwyn dod â’m gwaith ieuenctid a’m gwybodaeth am iechyd y cyhoedd at ei gilydd. Fy rôl nawr yw sicrhau bod lleisiau’r cyhoedd a phobl ifanc yn cael eu clywed mewn ymchwil yn DECIPHer, gan sicrhau bod yr holl ymwneud â’r cyhoedd yn amrywiol ac yn gynhwysol. Mae’n rôl gyffrous ac mae’n fy ngalluogi i weithio gyda phobl sy’n fy ysbrydoli ac i ddysgu am waith ac ymchwil gwych sy’n ymwneud â phobl ifanc a chymunedau.

“Mae DECIPHer yn ganolfan ymchwil sefydledig ac uchel ei pharch, sy’n arwain yr arferion gorau. Mae’n fraint gweithio gyda chydweithwyr mor ymroddedig ac rwy’n dysgu drwy’r amser oddi wrth ein hymchwilwyr. Er fy mod i’n newydd yn y swydd a newydd ddechrau ar fy astudiaethau meistr, rwy’n gwybod yr hoffwn ddilyn gyrfa ym maes ymchwil yn y dyfodol – gan ganolbwyntio ar bobl ifanc, gwaith ieuenctid ac iechyd y cyhoedd. Gyda chymaint o bobl ysbrydoledig o’m cwmpas yn DECIPHer, rwy’n dysgu oddi wrth y goreuon bob dydd.”

Safia Ouerghi

Cafodd Safia, a raddiodd mewn Seicoleg yn 2021, ei chyflwyno i ALPHA a DECIPHer drwy leoliad proffesiynol yn ei thrydedd flwyddyn. Nawr, mae hi’n cymryd y cam cyntaf yn ei gyrfa ymchwil ac yn dilyn ei diddordeb angerddol mewn gwella iechyd y cyhoedd.

“Ym mlwyddyn olaf fy ngradd israddedig – yma yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd – fe fues i ar amryw o leoliadau, wedi’u trefnu gan GoWales. Fe ges i gyfle i gael lleoliad i wneud rôl gynorthwyol am dri mis (yn 2020) gydag ALPHA. Roedd yn cynnwys helpu i hwyluso a dylunio’r sesiynau ALPHA o dan oruchwyliaeth Uwch Swyddog Cyfranogiad y Cyhoedd ac Ieuenctid.

“Mae ALPHA yn caniatáu i bobl ifanc ddweud eu dweud mewn ymyriadau a strategaethau er mwyn eu cefnogi nhw a’u lles. Mae eu cyfraniad yn llywio ac yn gwella dyluniad ymchwil yn uniongyrchol. Ar ôl i’r lleoliad ddod i ben, ro’n i’n awyddus i ymuno ag ALPHA fel aelod oherwydd imi weld yn uniongyrchol bwysigrwydd ymwneud y cyhoedd ag ymchwil.

“Roedd cymryd rhan mewn ALPHA hefyd wedi fy helpu i ddatblygu llawer o sgiliau, yn enwedig sgiliau dadansoddol drwy werthuso methodoleg ymchwil. O fod yn aelod ac o fod â rôl gynorthwyol gydag ALPHA, fe ddes i ddeall fy mod i’n teimlo’n angerddol am ymchwil iechyd y cyhoedd.

“Ers hynny dw i wedi ymuno â DECIPHer fel Cynorthwy-ydd Ymchwil, gan ddatblygu a gweithredu casglu data ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). Ar hyn o bryd, dw i’n cymryd rhan mewn prosiect sy’n anelu at ehangu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sydd wedi sefydlu yn y sector uwchradd i ysgolion cynradd ledled Cymru. Ry’n ni ar y cam o werthuso dichonoldeb, mynd i’r afael â’r problemau sy’n ymddangos, a threialu dulliau arolygu a’u haddasrwydd ar gyfer plant iau. Mae’n brosiect cyffrous i fod yn rhan ohono ac yn un sy’n cyd-fynd â’m diddordebau.

“Mae gwaith DECIPHer mor bwysig gan ei fod yn golygu cyfathrebu’n uniongyrchol â phoblogaethau wedi’u targedu er mwyn gwella a mynd i’r afael â materion ac anghydraddoldebau iechyd. Mae ystyried amrywiaeth o faterion wrth fynd at yr ymchwil, yn hytrach na’u gwahanu, yn ein galluogi i weld sut maen nhw’n dylanwadu ar ei gilydd. Mae hyn yn datblygu dealltwriaeth well o’r cydberthnasau rhyngddyn nhw, sy’n arwain at ymyriadau wedi’u teilwra.

“Mae hon yn swydd gyntaf gyffrous ym maes ymchwil i mi ac rwy’n awyddus i ddatblygu ymhellach, efallai drwy wneud gradd meistr a PhD yn y dyfodol. Rwy’n teimlo’n angerddol am ymchwil iechyd y cyhoedd a sut gallwn ni droi’r ymchwil honno yn welliannau iechyd diriaethol i bobl ac i boblogaethau ledled y byd.”

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd