Swyddi Gwag
Mae hysbysiadau am swyddi a PhDs i’w gweld ar y dudalen hon, ar ein cyfrif LinkedIn ac yn ein cylchlythyron – i gofrestru, cliciwch isod.
Astudiaethau wedi’u mabwysiadu gan DECIPHer
Mae DECIPHer wedi datblygu fframwaith a system sefydledig o Grwpiau Datblygu Ymchwil i gynorthwyo â chyd-gynhyrchu astudiaethau newydd a gwneud y mwyaf o’u heffaith. Rhagofyniad ar gyfer unrhyw Grŵp Datblygu Ymchwil a gefnogir yw aelodaeth amlasiantaeth, amlddisgyblaethol, a lefel uchel o ymwneud gan randdeiliaid. Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau cydweithredu parhaus wrth ddatblygu ceisiadau ac mae’n ategu perthnasedd ecolegol; mae’n gwneud y mwyaf o addasrwydd y system ar gyfer astudiaethau ymchwil dilynol ac mae’n annog trosi gwybodaeth yn ymarfer ar lefel uwch. Mae’r broses gofrestru’n cynnwys trafodaeth gychwynnol gydag aelod o’n tîm a llenwi ffurflen fabwysiadu DECIPHer, gyda’i gymorth. [sm1] Yna, bydd Bwrdd Partneriaeth DECIPHer yn ystyried p’un a ellir mabwysiadu neu gysylltu’r astudiaeth ac, felly, pa lefel o gymorth y gall DECIPHer ei chynnig.
Rydym bob amser yn awyddus i drafod syniadau ymchwil newydd a chyfleoedd posibl i gydweithredu. Os ydych chi’n gweithio ym maes polisi neu ymarfer iechyd y cyhoedd a hoffech gymryd rhan mewn ymchwil sy’n berthnasol i nodau DECIPHER, byddem yn falch o glywed gennych. Anfonwch ebost atom ar DECIPHERadoptions@caerdydd.ac.uk neu cysylltwch â’r arweinydd rhaglen ar gyfer y maes sydd o ddiddordeb i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.
Mae’r Ffurflen Fabwysiadu i’w gweld isod yn ogystal â’r canllawiau ar gyfer ei llenwi a’i chyflwyno ar ôl trafod gydag un o Arweinwyr DECIPHer. Ar ôl ei llenwi, ebostiwch hi at Lindsay Allan – DECIPHERadoptions@caerdydd.ac.uk.
Dadlwythwch ffurflen gais mabwysiadu a thaflen wybodaeth DECIPHer
Gweithio yn DECIPHer
Mae cymuned amlddisgyblaethol DECIPHer yn cynnig amgylchedd rhagorol i ymchwilwyr iechyd y cyhoedd ym mhob cam o’u gyrfa i ffynnu. Maent yn ymuno â chanolfan ymchwil iechyd y cyhoedd o’r radd flaenaf ac yn elwa o’n sgiliau ac adnoddau unigryw, perthynas gref â sefydliadau DECIPHer eraill a rhwydwaith helaeth o bartneriaid polisi ac ymarfer, a rhaglen ddatblygu gallu deilwriedig DECIPHer i ymchwilwyr. Yn ogystal, mae staff DECIPHer yn rhan o gymuned ehangach sy’n gwneud ymchwil o safon uchel i iechyd y cyhoedd.
Astudio yn DECIPHer
Mae DECIPHer yn cynnig amgylchedd ymchwil amddisgyblaethol cefnogol, gyda phwyslais cadarn ar ymgysylltu â pholisi ac ymarfer mewn ymchwil gymhwysol i wella iechyd y cyhoedd. Mae rhestr o’r prosiectau presennol y mae myfyrwyr sy’n gweithio gyda DECIPHer yn ymgymryd â nhw i’w gweld ar dudalen ein Pobl.
Gweithio gyda pholisi ac ymarfer
Nod DECIPHer yw arwain cydweithredu a chyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr ym maes gwella iechyd y cyhoedd.
Mae gan ein cydweithredwyr polisi ac ymarfer brofiad ac arbenigedd unigryw. Mae defnyddio hwn gydol y broses ymchwil yn ein helpu i wneud ymchwil well, ac mae’n caniatáu i’r dystiolaeth a gynhyrchwn gael ei defnyddio’n haws i wella iechyd y cyhoedd.
Mae cyd-gynhyrchu syniadau a phrosiectau ymchwil yn golygu bod y rhain yn mynd i’r afael â’r cwestiynau sy’n berthnasol ac yn bwysig i bolisi ac ymarfer.
Mae cydweithio i gynllunio a chynnal yr ymchwil yn helpu i sicrhau bod y ffordd y mae’n cael ei chyflawni yn dderbyniol i lunwyr polisïau ac i ymarferwyr – y bobl fydd yn defnyddio’r ymchwil yn y pen draw.
Mae mewnbwn o feysydd polisi ac ymarfer yn sicrhau bod y dystiolaeth ymchwil a gynhyrchwn yn cael ei chyfleu yn y ffordd fwyaf defnyddiol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae DECIPHer yn adeiladu cydweithredu i’w waith, a sut mae hynny’n cryfhau’r gwaith a wnawn, gweler ein hastudiaethau ymchwil ar gydweithrediadau isod.
Sut rydym ni’n gweithio gyda pholisi ac ymarfer?
Daw syniadau ar gyfer prosiectau ymchwil DECIPHer o’r byd academaidd ac o bolisi ac ymarfer. Datblygir syniadau ymchwil yn brosiectau wedi’u hariannu trwy grwpiau datblygu ymchwil – dyma weithgorau bychain, sy’n cynnwys ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr, yn nodweddiadol.
Mae grŵp datblygu ymchwil yn crynhoi’r syniad cychwynnol yn gwestiwn ymchwil penodol, yn datblygu cynllun ymchwil priodol ac yn gwneud cais am gyllid grant. Mae hyn yn galluogi partneriaid polisi ac ymarfer i chwarae rhan lawn yn natblygiad ymchwil DECIPHer o’r dechrau’n deg.
Rydym bob amser yn awyddus i drafod syniadau ymchwil newydd a chyfleoedd posibl i gydweithredu. Os ydych chi’n gweithio ym maes polisi neu ymarfer iechyd y cyhoedd a hoffech gymryd rhan mewn ymchwil sy’n berthnasol i nodau DECIPHER, byddem yn falch o glywed gennych. Anfonwch e-bost atom ar DECIPHer@Caerdydd.ac.uk neu cysylltwch â’r arweinydd rhaglen ar gyfer y maes sydd o ddiddordeb i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.
Cydweithredu â DECIPHer
Sut beth yw gweithio gyda ni? Gofynnom i dri o’n cydweithredwyr allweddol ddweud wrthym am eu profiadau.
Julie Bishop
Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd,
Iechyd Cyhoeddus Cymru
‘Mae ymagwedd gydweithredol DECIPHer at ddatblygu syniadau ar gyfer ymchwil wedi creu argraff dda arnaf.’
Rwy’n treulio diwrnod yr wythnos yn swyddfa DECIPHer. Mae fy ngwaith gyda DECIPHer yn bennaf yn ymchwil iechyd mewn ysgolion; rwy’n goruchwylio rhaglen Rhwydwaith Cymru o Ysgolion Hybu Iechyd, sy’n gweithio’n agos gyda Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion DECIPHer. Hefyd, rwy’n goruchwylio’r gwaith o gyflwyno ASSIST, sef rhaglen atal ysmygu, wedi’i harwain gan gyfoedion, mewn ysgolion yng Nghymru.
Steve Manske
Uwch Wyddonydd ac Athro Cyswllt Ymchwil, Canolfan Propel er Iechyd y Boblogaeth Effaith ym Mhrifysgol Waterloo, Canada
‘Nid dim ond beth sy’n cael ei wneud, ond sut mae DECIPHer yn gweithredu hefyd, sydd ac a fydd yn cael effaith ar iechyd poblogaeth Cymru.’
Rwy’n rhan o’r tîm sydd wedi lansio’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. O ganlyniad i’r hyn sy’n debyg ym mandadau DECIPHer a Chanolfan Propel er Effaith Iechyd y Boblogaeth, buom yn archwilio prosiect cydweithredol sy’n amlygu croes-ffrwythloni posibl rhwng y canolfannau. O feddwl am y gwaith bues i’n cymryd rhan ynddo ar y System Gweithredu, Cynllunio a Gwerthuso Iechyd mewn Ysgolion yng Nghanada, roedd Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion newydd DECIPHer yn ymddangos yn gyfrwng perffaith.
Chris Bonell
Athro Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol,
yr Athrofa Addysg
Màs critigol o bobl sydd â diddordeb mewn cymhwyso theori a dulliau gwyddorau cymdeithasol i ymchwil perthnasol i bolisi’
Rwy’ wedi gweithio ar nifer o brosiectau DECIPHer dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd, rwy’n cymryd rhan yn astudiaeth atal cyffuriau ASSIST+Frank, sef prosiect Filter ar atal ysmygu mewn lleoliadau addysg bellach, cyfuniad o ymchwil ar ddatblygiad cadarnhaol ieuenctid, hapdreial clinigol o ddull adferol ‘dysgu gyda’n gilydd’ mewn ysgolion. Hefyd, rwy’n cadeirio’r pwyllgor llywio ar gyfer Prosiect SFP Cymru, sef treial DECIPHer o’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yng Nghymru.