Mynd i'r cynnwys
Home » Cyrsiau Byr » Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Astudiaethau Dichonoldeb

Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Astudiaethau Dichonoldeb

Dyddiad y cwrs

Dydd Mawr 15 Medi 2026


Manylion y cwrs

Nod y cwrs undydd hwn yw rhoi cyflwyniad i gyfranogwyr i astudiaethau dichonoldeb o ymyriadau iechyd cyhoeddus cymhleth. Mae astudiaethau o’r fath yn cynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i benderfynu sut i fynd ati i gynnal astudiaeth werthuso ar raddfa lawn.

Bydd cyfranogwyr yn dysgu am wahanol nodau astudiaethau dichonoldeb, eu dulliau cysylltiedig, sut y gall canfyddiadau astudiaeth lywio penderfyniadau tuag at werthusiad ar raddfa lawn a sut i adrodd ar ganfyddiadau dichonoldeb. Bydd cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a gwaith grŵp cymhwysol yn cael eu darparu yn ystod y dydd. Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron nifer o weithiau empirig a methodolegol sy’n ymwneud ag astudiaethau dichonoldeb gan gynnwys Dr Kelly Morgan, Dr Britt Hallingberg a’r Athro Graham Moore.


Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Rhesymau dros gynnal astudiaethau dichonoldeb
  • Dadleuon, cysyniadau ac egwyddorion allweddol mewn perthynas â therminoleg a dulliau astudio dichonoldeb
  • Y dulliau ymchwil (meintiol ac ansoddol) a ddefnyddir i fynd i’r afael ag ansicrwydd sy’n ymwneud ag ymyrraeth a chynllun gwerthuso astudiaeth dichonoldeb yn y dyfodol
  • Sut y gellir defnyddio canfyddiadau astudiaethau dichonoldeb i lywio penderfyniadau ynglŷn â symud at astudiaeth werthuso yn y dyfodol
  • Sut i adrodd am astudiaethau dichonoldeb
  • Teipolegau ac enghreifftiau o astudiaethau dichonoldeb o ymyriadau cymhleth i iechyd y cyhoedd

Ar gyfer pwy mae hyn?

Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.

Nid oes angen i chi fod wedi gwneud cyrsiau byr eraill DECIPHer.


Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.


Lleoliad y cwrs

sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd, CF24 4HQ


Ffi’r cwrs

£250

Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe Macdonald: macdonaldz@caerdydd.ac.uk.


Arweinwyr y cwrs

Dr Kelly Morgan


Archebu

Neges Bwysig: Mae mannau yn destun argaeledd ac yn cael eu dyrannu ar sail cyntaf i’r felin – mae galw mawr am y cyrsiau byr hyn felly rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cofrestru cyn gynted â phosibl i osgoi cael eich siomi. Does dim modd i ni gadw lle ar unrhyw un o’r cyrsiau. Dydy eich lle ar y cwrs ddim wedi’i warantu nes eich bod wedi cofrestru’n swyddogol drwy’r system cadw lle a derbyn e-bost yn cadarnhau hynny. 

Dull Talu: Y dull o dalu a ffefrir yw taliad cerdyn neu BACS. Os ydych yn talu drwy anfoneb ac yn gweithio i sefydliad y sector cyhoeddus, bydd angen copi PDF o’ch archeb brynu cyn bod modd rhoi anfoneb. E-bostiwch hwn i train@caerdydd.ac.uk. Mae modd cofrestru ac anfon manylion talu ar ôl hynny os oes angen.

Cysylltwch â Lucy Griffiths (Griffithsl44@caerdydd.ac.uk) neu Zoe Macdonald (MacdonaldZ@caerdydd.ac.uk)  os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.