Mynd i'r cynnwys
Home » Yr Athro James Lewis: Barn am Gwrs Byr DECIPHer 2024

Yr Athro James Lewis: Barn am Gwrs Byr DECIPHer 2024

  • Flog
Tagiau:

Adborth gan yr Athro James Lewis ar gwrs Mehefin 2024, sef ‘Datblygu, Gwerthuso, Addasu a Gweithredu’.

Dechreuais i weithio gyda DECIPHer ym mis Hydref y llynedd, ac rwy’ bob amser wedi clywed pethau da am y Cwrs Byr, felly roeddwn i’n awyddus iawn i gymryd rhan. Dros y blynyddoedd, rwy wedi gwneud llawer o waith ar ddatblygu a gwerthuso ymyraethau cymhleth, ond bob amser o safbwynt biofeddygol, felly roeddwn i’n awyddus i wybod sut olwg oedd ar bethau o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol. Roeddwn i hefyd yn awyddus i ymgyfarwyddo â’r tueddiadau diweddaraf mewn meysydd allweddol.

Roedd y cwrs yn ardderchog! Mae cymaint o ddysgu yn digwydd mewn pum niwrnod, ond sawl egwyl yn ystod y dydd a digon o gyfle i ofyn cwestiynau, felly doedd dim teimlad bod rhuthr. Roedd awyrgylch gwych yn y digwyddiad, a daeth pobl o bob rhan o’r DU a thramor. Roedd yno ystod eang o brofiad ac roedd gan bawb rywbeth i’w gyfrannu a rhywbeth i’w ddysgu.

Yn bersonol, elwais fwyaf ar y sesiynau ar feddwl ecolegol, safbwyntiau systemau cymhleth, theori rhaglenni a gwerthusiadau economaidd gan mai dyna oedd y pynciau gwannaf gen i pan ddechreuais i. Serch hynny, roedd pob un o’r sesiynau’n ddiddorol, gan gynnwys y rheini ar ddulliau ar y cyd, hapdreialon rheoledig ac arbrofion naturiol. O ganlyniad i’r cwrs, mae gen i nifer fawr o syniadau ar gyfer prosiectau ymchwil yn y dyfodol, ynghyd â rhestr hir o bapurau yr hoffwn i eu darllen nesaf.

Ym mis Medi y llynedd, es i i’r cyrsiau byr undydd ar Astudiaethau Dichonoldeb, Gwerthuso Prosesau ac Addasu Ymyraethau, ac er y rhoddir sylw i’r pynciau hyn yn ystod y cwrs byr am wythnos hefyd, mae’n werth mynd iddyn nhw os ydych chi eisiau treiddio’n ddyfnach i’r pynciau hyn.

Ers mis Hydref, bydda i’n meddwl yn aml nad yw tîm DECIPHer yn sylweddoli pa mor anhygoel ydyn nhw, a chafodd y farn hon ei chadarnhau ar ôl y cwrs. At ei gilydd, mae eu sgiliau, eu profiad a’u hyfforddiant ym maes iechyd y cyhoedd, y gwyddorau cymdeithasol a seicoleg yn creu rhywbeth gwirioneddol wych. Unigolion hael iawn yw pob un ohonyn nhw, ac maen nhw bob amser yn barod i rannu eu harbenigedd a’u hamser, a daeth hynny i’r amlwg yn y cwrs hefyd.

Os yw hyn oll yn eich denu i gymryd rhan yn y cwrs nesaf (a byddwn i’n ei argymell yn fawr), cewch ragor o fanylion ar wefan DECIPHer: https://decipher.uk.net/cy/cyrsiau-byr/.

Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw James Lewis, ac yn ystadegydd ac epidemiolegydd wrth ei grefft. Mae ei ymchwil yn ymdrin â deall yr heriau ym maes iechyd y cyhoedd yn well, yn ogystal â dylunio a gwerthuso ymyraethau perthnasol.