
Dysgwch am ein hamcanion a’n grwpiau strategol a chynghorol
Yn DECIPHer, rydym yn diffinio cynnwys y cyhoedd fel “gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ‘gyda’ neu ‘gan’ aelodau o’r cyhoedd yn hytrach nag ‘iddynt’, ‘amdanynt’ neu ‘ar eu cyfer'” (INVOLVE, 2019).
Ategir ein holl waith cynnwys y cyhoedd gan ein Strategaeth Cynnwys y Cyhoedd sydd â’r amcanion canlynol:

Ymgorffori cynnwys y cyhoedd drwy gydol y gwaith datblygu, dylunio, cynnal a lledaenu astudiaethau ymchwil.

Integreiddio safbwyntiau’r cyhoedd yn effeithiol i lywodraethiant y Ganolfan.

Datblygu capasiti ar gyfer cynnwys y cyhoedd ar draws Canolfan ymchwil DECIPHer.

Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i’r cyhoedd a staff a myfyrwyr DECIPHer, a’u cyfeirio atynt.

Mwyafu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ran cynnwys y cyhoedd yn DECIPHer.

Gwerthuso ein gweithgareddau cynnwys y cyhoedd.
Grwpiau Cynnwys y Cyhoedd DECIPHer
Mae ymchwil DECIPHer yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd, gan gynnwys pynciau fel gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae DECIPHer yn credu y dylai’r gwaith ymchwil y mae’n ei gynnal gael ei wneud gyda’r cyhoedd, yn hytrach nag iddynt neu arnynt.
Er mwyn helpu i lunio ein gwaith, rydym yn dibynnu ar gyfranogiad aelodau’r cyhoedd ar draws prosiectau ymchwil a llywodraethu DECIPHer. Er enghraifft, roedd gennym Grŵp Llywio Cynnwys y Cyhoedd (PISG) gynt a helpodd i ddatblygu a goruchwylio gweithrediad y strategaeth Cynnwys y Cyhoedd. Fodd bynnag, gyda’r rownd ariannu newydd, fe wnaethom uno’r grŵp hwn â’n grŵp aelodau gwyddonol i greu Bwrdd Ymgynghorol cyfunol. Mae’r Bwrdd Ymgynghorol hwn yn cynnwys cynrychiolwyr polisi, ymarfer, academaidd ac o’r cyhoedd, gan sicrhau bod yr ystod eang o arbenigedd sydd ar gael i ni yn cael ei defnyddio’n ystyrlon ac yn effeithiol.
Fe wnaethon ni hefyd gynnwys aelodau o’r cyhoedd yn natblygiad ein cyllid Canolfan presennol, a daeth dau ohonynt yn Gyd-ymgeiswyr Cyhoeddus ac maent bellach yn rhan o gyfarfodydd grŵp Cyd-ymchwilwyr ein canolfan. Mae’r cyfarfodydd hyn yn rhoi’r llwyfan i Gyfranwyr Cyhoeddus nodi blaenoriaethau ymchwil ar gyfer y Ganolfan. Ar ben hynny, i gynghori ein hymchwil sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc mae gennym grŵp cynghori o’r enw; ALPHA (Cyngor sy’n Arwain at Ddatblygiad Iechyd y Cyhoedd). Mae ALPHA yn cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy’n byw ledled de Cymru. Cliciwch ar fotwm tudalen ALPHA isod i gael gwybod mwy am ALPHA.

Rydym yn gwahodd cyfranwyr cyhoeddus i gymryd rhan mewn trafodaethau strategol mewn amrywiaeth o ffyrdd:
>Rhoi adborth
>Presenoldeb mewn cyfarfodydd
> Darparu / Derbyn hyfforddiant
> Cyflwyno mewn digwyddiadau / Mynd i ddigwyddiadau,
Yn ogystal, mae mwy o weithgarwch cynnwys y cyhoedd pwrpasol yn digwydd o fewn pob prosiect ymchwil unigol a gynhelir yn DECIPHer, gan weithio gyda chynrychiolwyr o’r poblogaethau penodol y mae’r ymchwil ar eu cyfer.

