Mynd i'r cynnwys
Home » Sut allwn ni wella maeth a gweithgarwch mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar? Gwerthuso rhaglen NAP SACC y DU

Sut allwn ni wella maeth a gweithgarwch mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar? Gwerthuso rhaglen NAP SACC y DU

Tagiau:

Gwnaeth y Ganolfan Treialon Ymchwil a DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd, a ariennir ill dau gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gymryd rhan mewn astudiaeth a gafodd sylw yn ddiweddar yn y cyfnodolyn meddygol blaenllaw, Lancet Regional Health – Europe.

Gwerthusodd yr astudiaeth effaith rhaglen NAP SACC UK (Nutrition and Physical Activity Self-Assessment for Child Care), model sydd wedi ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau, sydd â’r nod o wella polisïau, ymarfer a darpariaeth maeth a gweithgarwch corfforol o fewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar yn y DU.

Dan arweiniad Prifysgol Bryste, profodd timau ymchwil o bob cwr o Gymru, Lloegr a’r Alban ei effeithiolrwydd a’i gost-effeithiolrwydd drwy dreial mawr mewn sawl canolfan, gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy gyfraniadau i Raglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.

Cynhaliwyd y treial rhwng Mawrth 2022 a Mawrth 2024 ac roedd yn cynnwys 52 o ddarparwyr addysg a gofal plentyndod cynnar gyda 835 o blant rhwng dwy a phum mlwydd oed yn Lloegr a’r Alban. 

Roedd y rhaglen yn cynnwys hunanasesu, gweithdai staff arbenigol, gosod nodau a chynllunio gweithredu a chefnogaeth barhaus i’r lleoliadau gofal plant. Gwerthusodd y tîm ymchwil a arweiniodd hyn at ostyngiad yn faint o egni yr oedd y plant yn ei fwyta yn ystod prydau meithrin, wedi’i fesur trwy asesu cynnwys maetholion drwy luniau o’r bwyd, a chynnydd yn eu gweithgarwch corfforol, wedi’i fesur trwy wregysau gweithgaredd (mesuryddion cyflymu).

Er eu bod wedi canfod nad oedd plant a gymerodd ran yn ymyrraeth NAPSACC UK yn bwyta llai o galorïau yn ystod y diwrnod meithrin, nac yn cymryd rhan mewn mwy o weithgarwch corfforol fel cyfanswm, roedd tystiolaeth o welliant yn nifer y calorïau a gafodd eu gweini a’u bwyta amser cinio. Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad bod newidiadau ar lefel polisi a statudol, megis gofynion maeth gorfodol, safonau maint dogn clir a darparu ciniawau am ddim, yn debygol o fod yn ddulliau mwy effeithiol, teg, y gellid eu cyflwyno ar raddfa fwy, o wella deiet a gweithgarwch corfforol plant ifanc.

Dywedodd James White, Athro a Chyfarwyddwr Treialon Iechyd y Boblogaeth a Gofal Cymdeithasol, Canolfan Ymchwil Treialon, ‘Mae astudiaeth NAPSACC UK yn un o’r treialon mwyaf i archwilio gwella gweithgarwch corfforol a maeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn y DU. Ni wnaethom ddod o hyd i newidiadau buddiol mewn gweithgarwch corfforol na chymeriant maeth. Mae ein dadansoddiadau yn awgrymu bod angen gwelliannau iechyd teg ar raddfa fawr i blant ifanc, o bosibl, trwy newidiadau polisi a statudol.’

Mae’r fideo hwn yn esbonio mwy am ganlyniadau’r astudiaeth. 

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn gyntaf gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.