Mynd i'r cynnwys
Home » Gwrthwynebiad neu gefnogaeth: Beth sy’n llunio agweddau’r cyhoedd at deithio llesol?

Gwrthwynebiad neu gefnogaeth: Beth sy’n llunio agweddau’r cyhoedd at deithio llesol?

  • Flog

Arweiniodd Nick Morris astudiaeth adolygu i asesu barn y cyhoedd yn y DU ar deithio llesol. Yma, mae’n egluro’r canfyddiadau a sut gallan nhw helpu llywodraethau i ysgogi ymgysylltiad.

Gall newidiadau fel lôn seiclo newydd, cau ffordd y tu allan i ysgol, neu leihau terfynau cyflymder wneud cerdded, seiclo neu deithio ar olwynion yn haws. Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn gallu sbarduno gwrthwynebiad lleol ffyrnig. Mae ein hadolygiad o’r dystiolaeth ar agweddau’r cyhoedd tuag at newidiadau sy’n gysylltiedig â theithio llesol yn canfod beth sy’n bwysig i’r bobl yr effeithir arnyn nhw.

Her gweithgaredd corfforol


Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno pa mor bwysig yw bod yn egnïol. Fodd bynnag, mae llywodraethau’n aml yn ei chael hi’n anodd ein helpu i gynnwys mwy o weithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd. Mae teithio llesol yn cynnig un ateb posibl: cerdded, seiclo neu olwyno ar gyfer mwy o’n teithiau bob dydd, gan gynnwys i’r gwaith neu’r ysgol, y siopau, apwyntiadau meddygol, neu i ddal bysiau a threnau. Fodd bynnag, mae ymdrechion i hyrwyddo teithio llesol wedi wynebu heriau. Mae rhai cynlluniau wedi cael cefnogaeth y cyhoedd tra bod eraill sy’n llai derbyniol wedi cael eu gohirio, eu gwanhau neu eu canslo. Pan nad oes modd cyflwyno’r cynlluniau, efallai ein bod yn colli cyfleoedd cymharol rad ac o fewn cyrraedd i helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Ymchwil newydd am agweddau’r cyhoedd


Rydw i newydd gyhoeddi astudiaeth adolygu cwmpas sy’n edrych ar agweddau’r cyhoedd yn y DU, boed hynny’n ymwneud â newidiadau ffisegol newydd i strydoedd i gynnwys llwybrau gwell ar gyfer cerdded a seiclo neu roi anogaeth ar waith i deithio llesol. Mae’r adolygiad yn cynnwys:

  • astudiaethau sydd wedi’u cyhoeddi am pam mae pobl yn cefnogi neu’n gwrthwynebu newidiadau mewn cysylltiad â theithio llesol,
  • sut mae hyn yn amrywio ar draws gwahanol leoedd a phobl mewn gwahanol amgylchiadau, a
  • beth mae hyn i gyd yn ei olygu i lywodraethau sy’n ceisio annog y cyhoedd i gefnogi newidiadau.

Mae hwn yn faes amrywiol sy’n cwmpasu iechyd y cyhoedd, trafnidiaeth a chynllunio trefi, a sut mae cynghorau a darparwyr trafnidiaeth yn ymgysylltu â phobl.

Mae’r pwnc hwn wedi cael mwy o sylw a diddordeb yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ymhlith y 26 astudiaeth a gafodd eu cynnwys yn ein hadolygiad, cyhoeddwyd mwy o ymchwil yn ystod y pum mlynedd diwethaf (14 astudiaeth) ar y pwnc hwn nag yn ystod y ddau ddegawd cyn hynny. Roedd y rhan fwyaf o’r ymchwil a ystyriwyd gennym yn canolbwyntio ar newidiadau ffisegol i strydoedd, fel llwybrau seiclo newydd, croesfannau gwell i bobl sy’n cerdded neu newidiadau i greu cymdogaethau tawelach. Mae’r newidiadau hyn yn tueddu i gael sylw’r cyhoedd a’r cyfryngau am eu bod mor amlwg ac mae eu hadeiladu yn gallu peri aflonyddwch. Ac er ein bod yn sôn am ‘agweddau’r cyhoedd’, mae’r cyhoedd yn cynnwys ystod eang o bobl sy’n defnyddio strydoedd, gan gynnwys pobl sy’n byw neu’n gweithio mewn ardal, yn rhedeg siop neu fusnes, yn teithio i’r gwaith, neu’n pasio drwodd ar y ffordd i rywle arall. Mae’r cyhoedd yn cynnwys plant ysgol, rhieni ac athrawon sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol hefyd.

Tair thema fawr

Fe wnaethon ni ganfod tair prif thema yn yr ymchwil a adolygwyd gennym:


Pam mae hyn yn bwysig

Mae ymchwil ehangach yn dangos bod ymddiriedaeth mewn llywodraethau yn gostwng mewn gwledydd incwm uchel fel y DU, a gallai hyn effeithio hefyd ar barodrwydd y cyhoedd i dderbyn newidiadau y mae llywodraethau’n eu cyflwyno. Mae datganoli yn y DU yn rhoi pwerau polisi uniongyrchol i fwy o bobl a lleoedd dros faterion bob dydd fel teithio llesol, iechyd y cyhoedd a thrafnidiaeth. Dyma sut y cafodd Cymru’r pwerau i ostwng y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol i 20mya er mwyn gwneud strydoedd yn fwy diogel ac fe wnaeth hyn ysgogi dadl hynod fywiog. Yn ogystal â rhoi mwy o opsiynau polisi i lywodraethau, mae hyn yn golygu y bydd gan fwy o bobl a lleoedd gyfleoedd i gefnogi neu wrthwynebu polisïau lleol a rhanbarthol newydd. Ar ben hynny, mae offer digidol newydd fel deallusrwydd artiffisial yn newid sut mae pobl yn cyfleu eu gwrthwynebiadau i gynghorau. Felly, mae gwir angen gwell dealltwriaeth arnom o’r hyn sy’n gwneud camau teithio llesol yn fwy neu’n llai derbyniol i’r cyhoedd a’r cymunedau lleol dan sylw, a sut y gall llywodraethau weithio i ennill cefnogaeth i newidiadau. Os na wnawn ni neu os na allwn ni wneud hyn, rydym mewn perygl o golli potensial teithio llesol i helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn eu bywydau bob dydd.

Diolch


Diolch i gyd-awduron yr adolygiad cwmpasu:  Kelly Morgan  yn DECIPHer a Russ JagoRuth Salway a Ruth Kipping yng Nghanolfan Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol BrysteHelen Russell yn Ysgol Feddygol Bryste.

Fel prif awdur yr adolygiad, diolchaf i’m hariannwr, Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol GW4 BioMed MRC, am fy nghefnogi i arwain yr ymchwil hon ac am ei gwneud ar gael i bawb yn rhad ac am ddim.

Cardiff University, Health and Care Research Wales and Welsh Government logos