Mynd i'r cynnwys
Home » Coffi, cacen foron a’r math gorau o gyd-ddigwyddiad: Interniaeth DECIPHer Sarah

Coffi, cacen foron a’r math gorau o gyd-ddigwyddiad: Interniaeth DECIPHer Sarah

Mae Sarah Cawley yn fyfyrwraig Seicoleg yn ei blwyddyn
olaf ym Mhrifysgol Caerdydd.

Weithiau, mae’r hafau gorau yn dechrau yn y ffyrdd mwyaf annisgwyl. Dechreuodd fy haf i gyda choffi a chacen foron.


Yn nigwyddiad dathlu Canolfan Wolfson yn ystod fy lleoliad blaenorol blwyddyn o hyd, cafwyd yr egwyl arferol gyda phawb yn rhannu’n grwpiau bach. Yn y gorffennol, byddwn i wedi eistedd gyda fy ffrindiau yn y gornel, yn aros gyda’r bobl roeddwn i’n gyfarwydd â nhw. Dydw i ddim yn siŵr beth oedd yn yr awyr ond penderfynais adael y lle cyfforddus yna a mynd i sgwrsio â rhywun newydd. Edrychais o gwmpas yr ystafell, gweld y person oedd yn gwenu fwyaf ac yn edrych yn fwyaf cyfeillgar a chyflwyno fy hun. Buom ni’n sgwrsio’n frwd dros goffi a chacen foron cyn sylweddoli bod y sesiwn ar fin dechrau a’i bod yn well i ni roi’r gorau i glebran! Doeddwn i ddim yn gwybod gyda phwy roeddwn i wedi bod yn sgwrsio tan i mi gyrraedd yn ôl at fy nesg y prynhawn hwnnw. A’r person hwnnw oedd Kelly Morgan – fy ngoruchwyliwr ar yr interniaeth haf yn DECIPHer roeddwn wedi gwneud cais amdano yn ddiweddar. Wrth edrych yn ôl, dw i’n dal i wenu wrth feddwl fy mod wedi cael fy sgwrs gyntaf gyda DECIPHer cyn i mi hyd yn oed sylweddoli hynny.


Fel myfyriwr Seicoleg israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, dw i bob amser wedi cael fy nenu at seicoleg glinigol, er dros y flwyddyn ddiwethaf mae gen i ddiddordeb cynyddol mewn iechyd cyhoeddus a’r syniad o wella iechyd ar raddfa lawer ehangach. Roedd fy lleoliad blwyddyn gyda Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn canolbwyntio ar dreial rheoledig ar hap CBT. Roedd hwn yn brofiad amhrisiadwy a hefyd y tro cyntaf i mi feddwl ar raddfa ehangach. Oedd, roedd y treial yn gam pwerus ymlaen i atal iselder ond weithiau roeddwn i’n rhwystredig gan fod y systemau ehangach o amgylch llawer o gyfranogwyr yn amlwg yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Beth pe bawn i’n gallu gwneud rhywbeth am hyn? Beth pe bawn i’n gallu bod yn rhan o rywbeth sy’n ail-ffurfio pob agwedd ar y system ecolegol i wella bywydau pobl?

A dyma ddod at fy interniaeth haf yn DECIPHer. Yn seiliedig ar y rhaglen Bwyd a Hwyl, rhoddodd yr interniaeth y cyfle cyntaf i mi fynd i’r afael â phroblemau yn ehangach nag ar lefel yr ‘unigolyn’ fel y mae Seicoleg Glinigol yn tueddu i ganolbwyntio arno. Yma, cyffrôdd fy meddwl wrth ddeall sut mae’r holl wahanol ddylanwadau ehangach yn cyfrannu at gynyddu anghydraddoldebau iechyd dros wyliau’r haf. Mae’r Rhaglen Bwyd a Hwyl ar waith ledled Cymru yn darparu addysg maeth, bwyd o safon a chyfleoedd am weithgarwch corfforol dros gyfnod yr haf. Yn hollbwysig, mae’n helpu i gefnogi teuluoedd pan fydd ei angen fwyaf a fy rôl i oedd ymchwilio i hyn, gan gynorthwyo Caitlin Jackson gyda’i PhD.


Er mai dim ond dau fis oedd y lleoliad, roedd pob wythnos yn dod â rhywbeth hollol wahanol. O gyfrannu at brosiect mapio effaith crychdonnau, cymhwyso moeseg a chyfweliadau ledled Cymru, dw i’n symud ymlaen o’r rôl gyda sgiliau trosglwyddadwy eang sy’n fy mharatoi i ddechrau’n gryf ym maes Iechyd y Cyhoedd. Gwnaeth DECIPHer hefyd fuddsoddiad hael yn fy nysgu gyda gwahoddiad i gymryd rhan yn eu rhaglen cwrs byr. Bob wythnos, roedd mynychu’r sesiynau dulliau ymchwil cymhwysol hyn yn cryfhau fy hyder ymhellach ac yn fy arfogi â chymhwysedd mewn amrywiaeth o sgiliau amhrisiadwy ar gyfer gyrfa ym maes Iechyd Cyhoeddus.


Ond un o’r pethau oedd yn sefyll allan i mi fwyaf yn DECIPHer, yn fwy nag un diwrnod arbennig neu ddysgu sgil penodol, oedd y diwylliant. Pwy bynnag ydych chi – intern arall neu uwch aelod – mae pawb yn hynod groesawgar. Trefnodd y ganolfan ginio hyd yn oed i gyflwyno’r myfyrwyr lleoliad, cyffyrddiad ychwanegol a helpodd bawb i gysylltu. Ar ben hynny, roedd y berthynas rhwng yr interniaid, a gliciodd ar unwaith, yn arbennig iawn. Erbyn diwedd wythnos un, roedden ni eisoes wedi creu calendr cymdeithasol y tu allan i’r gwaith, yn amrywio o yoga poeth i go-kartio! Roedd treulio’r haf yn DECIPHer yn fraint a dw i’n teimlo’n lwcus i fod yn gadael gyda chysylltiadau personol a phroffesiynol mor anhygoel.


A beth nesaf? Dw i ar fin dechrau blwyddyn olaf Cwrs BSc Seicoleg Caerdydd. Wrth barhau i ystyried opsiynau gyrfa’r dyfodol, mae DECIPHer wir wedi agor fy llygaid i’r posibiliadau o fewn iechyd cyhoeddus ac wedi fy helpu i sylweddoli lle dw i’n disgleirio. Pa bynnag gyfeiriad fydd bywyd yn mynd â mi, dw i’n gadael y prosiect gydag angerdd a hyder newydd i wneud gwahaniaeth.

Cardiff University, Health and Care Research Wales and Welsh Government logos