Mynd i'r cynnwys
Home » Cyrsiau Byr » Cyrsiau pwrpasol

Cyrsiau pwrpasol

Os ydych chi’n chwilio am gwrs ar gyfer grŵp mwy neu sefydliad (o leiaf 15 o bobl), gallwn lunio hyfforddiant pwrpasol yn seiliedig ar gynnwys ein
rhaglenni wyneb yn wyneb.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o ddarpariaeth flaenorol:

  • Cwrs undydd ar Werthuso Prosesau ar gyfer DEFRA, Llywodraeth y DU.
  • Cwrs tair wythnos ar Ddatblygu a Gwerthuso Ymyriadau ar gyfer Canolfan IMPACT, Prifysgol Efrog
  • Cwrs undydd ar Werthuso Prosesau ar gyfer Prifysgol Monash, Awstralia.
  • Cwrs undydd ar Ddatblygu a Gwerthuso Ymyriadau ar gyfer Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ESRC.
  • Cwrs undydd ar Addasu ar gyfer Prifysgol Namibia (UNAM).

Bydd cyrsiau wedi’u teilwra yn cael eu cyflwyno ar-lein yn ôl yr arfer, oni bai bod y sefydliad sy’n gwneud y cais yn gallu talu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â chyflwyno wyneb yn wyneb. Bydd cyrsiau hirach yn gymysgedd o gyflwyno ar-lein amser real a dysgu anghydamserol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn edrych ar hyn, cysylltwch â ni a byddwn ni’n trefnu cyfarfod cychwynnol i drafod eich anghenion.