Mynd i'r cynnwys
Home » Rydyn ni i gyd yn unigryw ond rhywsut mae ein syniadau ni i gyd yn disgyn i’w lle fel jig-so.’ Dal i fyny gyda thîm ALPHA

Rydyn ni i gyd yn unigryw ond rhywsut mae ein syniadau ni i gyd yn disgyn i’w lle fel jig-so.’ Dal i fyny gyda thîm ALPHA

  • Flog
Tagiau:

Dau aelod o grŵp ymchwil ieuenctid DECIPHer, ALPHA, sy’n sgwrsio am yr hyn mae’n ei olygu iddyn nhw. Hefyd, cawn fynd gyda nhw i weld y tu ôl i lenni animeiddiad newydd ALPHA

Isabella Ewings, 17

Ydych chi’n angerddol dros newid ymchwil iechyd cyhoeddus yn y DU? Dyma fy mhrofiad i gydag ALPHA! Rydyn ni’n dadansoddi ymchwil ledled y DU ac yn gwneud awgrymiadau ar sut y gellir teilwra ymchwil yn well ar gyfer pobl ifanc. Mae bod yn rhan o ALPHA wedi bod yn brofiad amhrisiadwy i mi: codi fy hyder, ffurfio cyfeillgarwch, sicrhau profiad anhygoel ar gyfer fy CV a meithrin sgiliau ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.

Un o fy hoff bethau am ALPHA yw gallu defnyddio fy mhrofiadau yn y gorffennol i wneud ymchwil yn fwy hygyrch ac wedi’i addasu’n well ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol. Mae wedi bod yn agoriad llygad i weld sut mae ymchwil yn cael ei gynnal a bod cynifer o wahanol ffyrdd o ymarfer ymchwil. Trwy’r profiad hwn gydag ALPHA rydw i nawr yn bwriadu dilyn gyrfa mewn ymchwil.

Mae’n hynod o bwysig fod grwpiau ieuenctid fel ALPHA yn bodoli oherwydd mae gan bobl ifanc bob hawl i leisio’u barn a rhannu eu profiadau. Dyfyniad a glywais yn ddiweddar trwy brosiect arall rwy’n rhan ynddo yw: “Mae bod mewn cymuned mor bwysig oherwydd bod eich profiadau tebyg yn amhrisiadwy.” Rydw i wir yn credu bod hyn yn cyd-fynd â gwerthoedd ac ethos ALPHA, rydyn ni i gyd yno i gael effaith gadarnhaol ar rai o’r profiadau negyddol rydyn ni wedi’u cael boed hynny gydag iechyd corfforol, iechyd meddwl neu unrhyw beth arall. Mae hynny’n gyffredin gyda ni ac rydyn ni wedi creu cymuned glos sydd mor gefnogol. Rwy’n meddwl bod pob person ifanc yn ALPHA wedi elwa o’r profiad ac rwy’n credu y dylai pob person ifanc fod yn rhan o grŵp ieuenctid fel ALPHA.

Rwy’n credu bod llais pobl ifanc yn bwysig oherwydd ein bod yn addasu’r byd yn y ffordd sydd fwyaf addas i ni, rydyn ni’n byw bellach mewn byd sy’n gwbl wahanol i’r hyn oedd e dim ond 15 mlynedd yn ôl. Ni yw wynebau’r dyfodol ac mae llais ieuenctid wrth wraidd hyn. Drwy eiriol dros newid rydyn ni’n gwneud y byd yn lle gwell i ni ac i genedlaethau’r dyfodol. Fydd pethau ddim yn newid os na wnawn ni godi llais.

Mae cynnwys y cyhoedd hefyd yn bwysig oherwydd fel cymuned rydyn ni’n mynd trwy’r profiadau hyn gyda’n gilydd, a thrwy drawsnewid y gwasanaethau rydyn ni’n eu teilwra’n well i anghenion ein cymunedau. Mae cynnwys y cyhoedd hefyd yn sicrhau bod ymchwil yn berthnasol ac yn ystyrlon i’r rhai y mae’n bwriadu eu gwasanaethu. Yn ogystal, trwy gynnwys y cyhoedd, mae digon o gyfleoedd i ddod ag ystyriaethau (o’ch cymuned) i’r amlwg ac o bosibl ddod o hyd i ymchwilydd o’r un anian a helpu i gynnal ymchwil sy’n berthnasol i chi a’ch cymuned.

Yn gyffredinol, mae ALPHA yn grŵp gwych i fod yn rhan ohono, a hyd yn oed os na wyddoch chi ddim byd am ymchwil iechyd y cyhoedd, mae ALPHA yn eich paratoi gyda chymaint o sgiliau fel y byddwch chi’n debygol o allu dehongli’r rhan fwyaf o jargon yr ymchwil ar ôl cwpwl o gyfarfodydd. Rydw i wedi bod gydag ALPHA ers pedair blynedd ac rwy’n dal i ddrysu gyda rhywfaint o’r jargon. Mae bob amser yn hyfryd cwrdd ag aelodau newydd a byddwn yn argymell ALPHA i unrhyw un. Mae’r ffrindiau rydych chi’n eu gwneud a’r sgiliau rydych chi’n eu dysgu yn amhrisiadwy i’r ffordd mae ALPHA yn rhedeg. Nid y cyfarfodydd rheolaidd yn unig sy’n creu ALPHA, ond hefyd y cyfleoedd ychwanegol a’r cysylltiadau a wnewch chi fydd yn eich arwain at gyfleoedd eraill.

Dyma fy mhrofiad i gydag ALPHA. Beth fydd eich stori chi?


Huw Clements, 21

ALPHA – Cyngor sy’n Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd. (Advice Leading to Public Health Advancement). Gall pobl sy’n byw yng Nghymru sydd rhwng 11 a 25 oed fod yn rhan ohono. Mae’r blog hwn yn esbonio beth yw ALPHA.

Clywais i am ALPHA pan soniodd rhywun wrthyf i amdano. Rwyf i wedi bod yn aelod ers bron i dair blynedd. Roedd gen i ddiddordeb mewn ymuno oherwydd gallwn i ddysgu mwy am ysmygu ac iechyd meddwl a chorfforol, ac ati. Rwyf i wedi llwyddo i fynd i’r rhan fwyaf o sesiynau ALPHA ers i mi ymuno.

Rwy’n mwynhau ALPHA oherwydd rwyf i wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi dysgu am bynciau pwysig. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi weld pobl sydd eisoes yn ffrindiau ac sydd yno’r un pryd â fi. Mae’r trafodaethau grŵp wedi bod yn dda oherwydd rwy’n gallu dysgu o awgrymiadau pobl eraill.

Mae ALPHA yn bwysig oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i aelodau ddod at ei gilydd a dysgu am bethau newydd. Mae Llais Ieuenctid yn bwysig i ALPHA oherwydd gall ganfod pa bobl sy’n cymryd rhan yn ALPHA ar hyn o bryd a gwirio pwy sy’n cymryd rhan mewn sesiynau ALPHA. Felly, gellir adnabod y bobl ifanc wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn sesiynau ALPHA. Mae gwaith cynnwys y cyhoedd yn bwysig oherwydd gall sicrhau bod pobl yn ddiogel ledled y byd a bod ganddyn nhw iechyd meddwl da.

Mwynheais i greu’r animeiddiad i wahodd pobl newydd i ymuno â grŵp ALPHA, ac ymweld â’r stiwdio. Roedd cymryd rhan yn y sesiwn trosleisio’n dda gan i mi lwyddo i ddweud y rhan fwyaf o’r geiriau’n glir.

Cyfarfod ffrindiau newydd a dysgu pynciau newydd yw’r peth gorau am fod yn rhan o grŵp ALPHA oherwydd mae’n gyfle i mi gael trafodaethau grŵp am y pwnc sydd wedi’i esbonio yn ystod sesiynau ALPHA.

Ceir rhagor o wybodaeth am ALPHA yma: https://decipher.uk.net/cy/ymchwil-gwella-iechyd-y-cyhoedd/alpha/

Lawrlwythwch becyn gwybodaeth yma: https://decipher.uk.net/wp-content/uploads/ALPHA-Leaflet-1-compressed.pdf

Dilynwch gyfryngau cymdeithasol ALPHA yma: