Mynd i'r cynnwys
Home » Atal gorbryder ac iselder trwy wella cysylltedd ysgolion — archwilio data presennol i ddysgu gwybodaeth newydd a chyd-ddatblygu offeryn digidol i gefnogi ysgolion i adeiladu amgylcheddau sy’n feddyliol iach

Atal gorbryder ac iselder trwy wella cysylltedd ysgolion — archwilio data presennol i ddysgu gwybodaeth newydd a chyd-ddatblygu offeryn digidol i gefnogi ysgolion i adeiladu amgylcheddau sy’n feddyliol iach

Prif Ymchwilwyr

Model Prif Ymchwilydd ar y cyd: Dr Jeremy Segrott, Dr Hayley Reed, Dr Nicholas Page.


Cyd-ymchwilwyr

Prof Frances Rice, Dr Olga Eyre, Dr Yulia Shenderovich, Prof Simon Murphy a Dr Rhys Bevan-Jones.


Cefndir

Mae mynd i’r afael ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc ar lefel systemig yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Yn 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Dull Ysgol Gyfan (DYG) o Ymdrin â Lles Emosiynol a Meddyliol. Mae’r DYG yn cysylltu’r cwricwlwm a’r ystafell ddosbarth ag amgylchedd cymdeithasol ysgolion, ac yn rhoi perthnasoedd cryf rhwng ysgolion a theuluoedd wrth wraidd strategaeth hirdymor i ddatblygu ysgolion sy’n feddyliol iach.

Gyda hyn mewn golwg, gwnaethom gais llwyddiannus am Wobr Data Iechyd Meddwl, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae’r wobr yn cefnogi dulliau cydweithredol o ymchwilio i orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc, gan ofyn i dimau archwilio data presennol i ddysgu gwybodaeth newydd a datblygu offer digidol sy’n galluogi ymchwil yn y dyfodol.


Y Nod a’r Wobr

Nod hirdymor ein gwaith yw defnyddio data ymchwil i adeiladu amgylcheddau ysgol sy’n cefnogi myfyrwyr ac arferion sy’n feddyliol iach.

Mae’r Wobr Data Iechyd Meddwl yn cynnwys tri cham: Cam Darganfod; Cam Prototeipio a Cham Cynaliadwyedd.

Yn ystod y Cam Darganfod gwnaethom geisio deall ysgogiadau allweddol cysylltedd ysgol mewn ysgolion uwchradd drwy ddadansoddi data a gafwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). Mae SHRN yn rhwydwaith cenedlaethol a sefydlwyd o fewn y system ysgolion uwchradd yng Nghymru sydd wedi’i amlygu fel ffynhonnell allweddol o ddata i gefnogi ysgolion wrth lunio eu cynlluniau gweithredu a datblygu ysgolion sy’n feddyliol iach. Mae’r fenter SHRN yng Nghymru yn esiampl o bartneriaeth polisi-ymarfer-ymchwil ac mae ganddi hefyd enw da yn rhyngwladol (er enghraifft Ysgolion Hybu Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd).

Ar y Cam Prototeipio, gwnaethom adeiladu Dangosfwrdd Digidol Lefel Ysgol i gefnogi ysgolion i ddefnyddio data ymchwil i lywio eu gweithredoedd ynghylch iechyd meddwl a lles myfyrwyr. Roedd hyn yn golygu cydgynhyrchu’r Dangosfwrdd gydag ysgolion, pobl ifanc, ymchwilwyr, ac ymarferwyr iechyd ysgolion eraill trwy fethodoleg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.


Cynllun yr Astudiaeth


Roedd y Cam Darganfod yn cynnwys dadansoddiad data eilaidd o arolwg iechyd myfyrwyr Cymru gyfan ac yn archwilio cysylltedd ysgolion a pherthynas hyn ag amgylchedd a pholisïau’r ysgol. Cysylltodd ein dadansoddiad data eilaidd ddata lefel ysgol a data lefel myfyriwr a gafwyd gan SHRN, sy’n casglu data Cymru gyfan ar iechyd meddwl myfyrwyr, gyda data ar gael ar gyfer 73% o fyfyrwyr o 96% o ysgolion uwchradd prif ffrwd.

Yn ystod y cam cyntaf, gwelsom fod cysylltedd ysgol (i ba raddau y mae pobl ifanc yn teimlo cysylltiad â’u hysgol) yn gysylltiedig â lefelau gorbryder ac iselder pobl ifanc. Er enghraifft, roedd cysylltedd ysgol yn is ymhlith myfyrwyr a oedd wedi dioddef bwlio yn yr ysgol neu’n teimlo pwysau ynghylch eu gwaith ysgol ac yn uwch ymhlith myfyrwyr a ystyriai fod eu hysgol yn cynnig cymorth iechyd meddwl da.

Roedd y Cam Prototeipio yn cynnwys cyd-ddatblygu’r Dangosfwrdd gydag ysgolion (a rhanddeiliaid allweddol) er mwyn galluogi ysgolion i ddadansoddi a gweithredu ar eu data SHRN eu hunain yn fwy effeithiol. Gwnaeth prosesau cydgynhyrchu gydag ysgolion, pobl ifanc, ymchwilwyr, ac ymarferwyr iechyd ysgolion ein cefnogi i wneud penderfyniadau ar ba ddata i’w gynnwys, sut i arddangos y data, a pha adnoddau pellach yr oedd ysgolion am i’r dangosfwrdd gysylltu â nhw. Gan dynnu ar ganfyddiadau’r Cam Darganfod, gwnaethom sicrhau bod ysgolion yn cael mynediad at fetrigau ynghylch cysylltedd ysgolion (a mesurau cysylltiedig).

Roedd ein hallbynnau’n cynnwys:

  • Cynllun gweithredu ar gyfer ehangu’r Dangosfwrdd Digidol ar draws SHRN yng Nghymru
  • Adnoddau i ymchwilwyr iechyd meddwl fel y gallant addasu ein Dangosfwrdd ar gyfer eu lleoliadau nhw.

Cynnwys y Cyhoedd/Rhanddeiliaid


Rydym wedi gweithio drwy bob cam o’r prosiect gyda:


Dangosfwrdd Digidol Lefel Ysgol


Cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth am y dangosfwrdd digidol lefel ysgol yr ydym wedi’i adeiladu, ac i weld fersiwn prototeip.


Rhagor o Wybodaeth


Blog: Adeiladu ysgolion sy’n feddyliol iach – beth yw’r cynhwysion gweithredol? Chwefror 2023

Blog: Cwrdd â’r ymchwilwyr: Brianna a Katy-Mai Gorffennaf 2023

Adborth i randdeiliaid a gyfrannodd at gyd-ddatblygu’r dangosfwrdd prototeip

Erthygl newyddion: Prosiect Dangosfwrdd Data SHRN yn un o dri enillydd Gwobr Data Iechyd Meddwl Rhagfyr 2023

Gweminar: Diweddariad Dangosfwrdd Lefel Ysgol


Dyddiad dechrau

Awst 2023

Dyddiad gorffen

Mai 2024

Cyllidwyr

Gwobr Data Iechyd Meddwl / Ymddiriedolaeth Wellcome