Mynd i'r cynnwys
Home » Yr hyn a ddysgais am y system fwyd mewn ysgolion trwy RISE: O sgyrsiau gydag arweinwyr polisi i brofiadau amser cinio plant

Yr hyn a ddysgais am y system fwyd mewn ysgolion trwy RISE: O sgyrsiau gydag arweinwyr polisi i brofiadau amser cinio plant

  • Flog
Tagiau:

A minnau’n Gynorthwyydd Ymchwil a Gwerthuso Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gen i ddiddordeb arbennig yn y systemau ehangach sy’n ffurfio deilliannau iechyd a chymdeithasol cenedlaethau’r dyfodol. Yn y rôl yn aml dw i wedi gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid mewn lleoliadau ledled y wlad. Yr hyn a’m denodd i at brosiect RISE oedd y cyfle i edrych ar fwyd ysgol nid yn unig o ran maeth, ond fel penderfynydd allweddol o ran iechyd gydol oes ac fel rhan o’r system fwyd ehangach.

Gall prydau ysgol gefnogi maeth a lles plant, yn enwedig mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar gostau byw, ond mae eu heffaith yn dibynnu ar fwy na’r ffaith eu bod ar gael. I mi, cwestiwn allweddol yw a yw cynnig pryd i bawb yn trosi’n fudd real a theg i blant a theuluoedd, yn enwedig gyda llawer yn ymdopi ag incwm isel neu heriau eraill.

Gweld y system fwyd ysgol ehangach

Dechreuodd fy nghyswllt â RISE gyda Phecyn Gwaith 1 (WP1), gan gefnogi recriwtio a chyflwyno’r gweithdai mapio cyfranogol ar draws pedair gwlad y DU, a chynnal cyfweliadau yng Nghymru. Drwy’r cam hwn, am y tro cyntaf cefais ymdeimlad gwirioneddol o raddfa a chymhlethdod y system fwyd ysgol. Ar draws WP1, bûm i’n archwilio themâu allweddol gyda phobl mewn amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys llunwyr polisi, rheolwyr arlwyo, arbenigwyr caffael, cyflenwyr bwyd a sefydliadau trydydd sector, ymhlith llawer o rai eraill. Mae’r ehangder hwn wedi fy helpu i ddeall faint o bobl, sefydliadau a phenderfyniadau sy’n arwain at y cinio a gynigir i blentyn.

Roedd yn amlwg mai anaml y byddai bwyd ysgol yn cael ei drafod fel dim mwy na gwasanaeth arlwyo. Nododd gweithwyr proffesiynol fod iddo nifer o nodau: lleihau newyn, gwella iechyd a lles, cefnogi dysgu a chyrhaeddiad, lleihau anghydraddoldebau trwy brydau ysgol am ddim, a chyfrannu at fanteision ehangach megis cynaliadwyedd. Mae’r sgyrsiau hyn yn pwysleisio bwyd ysgol fel blaenoriaeth o ran iechyd cyhoeddus, addysg, cydraddoldeb a systemau bwyd gyda’i gilydd.

Roedd WP1 hefyd yn dangos pa mor wahanol yw darpariaeth prydau ysgol am ddim ar draws y pedair gwlad, a wnaeth i mi werthfawrogi pa mor ffodus yw Cymru i gael prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn lleoliadau cynradd. Mae hwn yn gam arwyddocaol nad oes unrhyw genedl arall yn y DU wedi’i ddilyn eto.

Pam mae profiadau bwyd cynnar yn bwysig

Mae’r gwaith hwn hefyd yn cysylltu â fy mhrofiad personol a phroffesiynol fy hun. Ar ôl magu dau blentyn trwy’r ysgol gynradd, dw i’n gwerthfawrogi’n arbennig y rôl sydd gan leoliadau ysgol cynnar wrth ffurfio amlygiad plant i fwyd. Mae amser cinio yn yr ysgol yn fwy na bwyta yn unig. Gall fod yn rhywle ble mae plant yn dod ar draws bwydydd newydd, dysgu arferion, eistedd gyda chyfoedion a phrofi bwyta cymdeithasol, yn aml am y tro cyntaf mewn lleoliad grŵp mawr.

Mae fy ngwaith therapiwtig blaenorol fel Seicolegydd Cynorthwyol yn y GIG hefyd yn siapio sut dw i’n meddwl am fwyd. Gall profiadau cynnar gyda bwyd ddylanwadu ar y berthynas ddiweddarach â bwyta, cysur, ymdopi a lles. Dyma un rheswm pam mae profiadau plant o fwyd ysgol mor bwysig: dyw hi ddim yn ddigon i brydau bwyd fod ar gael, mae angen iddyn nhw hefyd fod yn dderbyniol, yn hygyrch ac yn apelgar, gan gynnig cyfle gwirioneddol ar gyfer profiadau cyntaf cadarnhaol o fwyta cymdeithasol ac amlygiad i fwyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd uwch.

Symud i ysgolion

Daeth WP2 â rhan arall o’r system i’r golwg. Ochr yn ochr ag aelodau eraill o’r tîm, bûm i’n cyfweld â staff mewn dwy ysgol, gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu, arweinwyr lles, cogyddion a staff cymorth cegin. Helpodd y sgyrsiau hyn fi i ddeall sut mae polisi cenedlaethol yn trosi’n arferion dydd i ddydd yn yr ysgol, a faint o feddwl, gwaith caled a gofal sydd eu hangen i greu amser cinio mewn diwrnod ysgol sydd eisoes yn brysur.

Casglais i ddata hefyd fel rhan o’r tîm mewn saith o wyth ysgol yr astudiaeth, gan dynnu lluniau o blatiau a phecynnau cinio plant cyn ac ar ôl cinio, a siarad â rhieni a phlant. Roedd llawer o’r plant yn wirioneddol frwdfrydig, yn chwilfrydig am yr ymchwil ac yn frwd wrth ddangos eu prydau bwyd i ni a chymryd rhan.

Ar ôl gwrando ar weithwyr proffesiynol a staff yr ysgol, roedd yn teimlo mai dyma oedd darn pwysig nesaf y pos: edrych yn fanwl ar wir brofiadau amser cinio plant o ran yr hyn a gynigid iddyn nhw, eu dewisiadau, beth oedden nhw’n ei fwyta a’r hyn a adawyd ar ôl. Dw i nawr yn cynorthwyo i ddadansoddi’r data hwn, gan edrych ar gynnwys maethol yr hyn a fwytawyd mewn gwirionedd yn ystod amser cinio. Mae hwn yn gam pwysig i ddeall a yw polisi o bryd bwyd i bawb yn trosi’n fanteision dietegol go iawn i blant.

Syniadau i gloi

Mae gweithio ar RISE wedi fy helpu i weld bod y system fwyd ysgol yn haenog a rhyng-gysylltiedig, ac yn cynnwys arweinwyr polisi, awdurdodau lleol, cyflenwyr, arlwywyr, ysgolion, teuluoedd a’r plant eu hunain, gyda phawb yn ffurfio profiad cinio’r plentyn.

I mi, un o rannau mwyaf gwerthfawr yr astudiaeth yw symud rhwng y safbwyntiau hyn. Helpodd sgyrsiau gydag arweinwyr polisi a gweithwyr proffesiynol fi i ddeall y dyheadau a’r pwysau ynghlwm â darparu bwyd ysgol. Dangosodd cyfweliadau gyda staff ysgol sut y caiff y dyheadau hynny eu gweithredu, ac roedd arsylwadau a sgyrsiau gyda phlant a rhieni yn dod â’r ffocws yn ôl at brofiadau dydd i ddydd y plant.

Dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o WP4, lle byddwn yn cynorthwyo i ddatblygu gweithredu ar draws y pedair gwlad ac yn wyth ysgol yr astudiaeth, yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd hyd yma. Mae fy mhrofiad fel rhan o RISE wedi atgyfnerthu pwysigrwydd gwrando ar draws y system gyfan os ydyn ni am i bolisïau bwyd ysgol fod yn ystyrlon, yn realistig ac yn gefnogol i iechyd a lles plant.