
Bydd academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Bryste yn arwain yr astudiaeth gyntaf sy’n canolbwyntio ar Gymru fydd yn ymdrin ag effaith cyfyngiadau’r cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc.
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a DECIPHer yn un o 10 tîm ledled y DU a fydd yn gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru i ddeall sut mae’r gwaharddiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn y DU yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc – a pham. Bydd yr asesiad yn cyfrannu at ddiogelwch ar-lein a pholisïau digidol yma ac yn rhyngwladol .
O dan y gwaharddiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn y DU, fydd yn dod i rym yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, bydd pobl o dan 16 oed yn cael eu hatal rhag cyrchu deg o’r platfformau mwyaf, gan gynnwys Instagram, TikTok a Snapchat.
Bydd effaith y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei hastudio cyn ac ar ôl gweithredu’r polisi hwn, a hynny drwy arolygon, trafodaethau grŵp a chyfweliadau. Bydd hyn yn caniatáu i’r tîm ymchwil ganfod a yw’r cyfyngiadau’n gysylltiedig â newidiadau mewn iechyd meddwl a lles, gan nodi pa bobl ifanc sy’n elwa fwyaf, yn ogystal â mecanweithiau unrhyw effeithiau posibl.
Bydd yr astudiaeth yng Nghymru hefyd yn cynnwys barn dau banel cynghori pobl ifanc er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn cael ei chynnal yn y ffordd fwyaf perthnasol i’r rheini y bydd y gwaharddiad yn effeithio arnyn nhw.
Dyma a ddywedodd arweinydd prosiect Prifysgol Caerdydd, yr Athro Stephan Collishaw, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc : “Gan fod mwyfwy o drafodaethau cyhoeddus a byd polisi ynghylch rôl y cyfryngau cymdeithasol ym mywydau pobl ifanc, ceir tystiolaeth gyfyngedig ynghylch a yw cyfyngiadau sy’n seiliedig ar oedran yn gwella lles yn ymarferol.”
Bydd y prosiect yn defnyddio data o arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) o bobl ifanc yng Nghymru. Ystyrir yn eang mai’r Rhwydwaith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw’r arolwg iechyd a lles mwyaf o’i fath mewn ysgolion yn y DU. Mae’n cynnwys pob ysgol uwchradd prif ffrwd yng Nghymru ac yn ddiweddar cafodd ei ehangu i gynnwys plant ysgol gynradd rhwng saith ac 11 oed.
Yn yr arolwg cenedlaethol diweddaraf yn 2025 o fwy na 100,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed, nododd un o bob deg broblemau o ran eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, tra bod un o bob tri o bobl ifanc wedi nodi lefelau uchel o broblemau emosiynol.
Dyma a ddywedodd Cyfarwyddwr y Rhwydwaith a chyd-arweinydd y prosiect, Dr Kelly Morgan o DECIPHer: “Cryfder penodol ein hastudiaeth newydd yw ei defnydd o ddata cenedl gyfan y Rhwydwaith yn ogystal â gallu gwerthuso dulliau cymysg yn gyflym, a bydd hyn yn ein galluogi i asesu effeithiau’r cyfyngiadau ar y cyfryngau cymdeithasol mewn amser real bron iawn.”
Dylan, 16, sy’n aelod o ALPHA, un o’r grwpiau cynghori ieuenctid sy’n cefnogi prosiect ymchwil Prifysgol Caerdydd: “O ystyried faint o bobl ifanc sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig bod lleisiau sy’n ein cynrychioli ni, fel bod modd i chi wneud rhagdybiaethau go iawn am sut fydd ein bywydau’n newid.”
Mae Prifysgol Caerdydd a Bryste, yn un o ddeg tîm ledled y DU, a ddygwyd ynghyd a’u hariannu gan Wellcome, sef elusen ddyngarol fyd-eang ac un o gyllidwyr ymchwil iechyd meddwl mwyaf y byd.
Dyma a ddywedodd Dr Camilla Iannone, Arweinydd Ymchwil Wellcome: “Dyma adeg hollbwysig i werthuso sut mae newidiadau sylweddol yn y byd digidol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc. Gallai helpu i gyfrannu at ddiogelwch ar-lein a pholisïau digidol.”
Ariennir DECIPHER gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae Dr Morgan yn aelod o gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Caiff Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ei chyllido gan Sefydliad Wolfson.
Cyhoeddwyd yr erthygl newyddion hon gyntaf gan Brifysgol Caerdydd.
