
Prif Ymchwilydd(ion)
Prif Ymchwilydd: Dr Hayley Reed
Cyd-Brif Ymchwilydd: Athro Rhiannon Evans
Ymchwilydd: Dr Abbey Rowe
Arweinir y prosiect hwn ar y cyd gan DECIPHer a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio (NCSR), ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bryste.
Cefndir
Mae hunan-niweidio yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol ymhlith y glasoed, gyda llawer o bobl ifanc yn profi hunan-niweidio am y tro cyntaf yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol uwchradd. Caiff cynlluniau rheoli diogelwch eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Llywodraeth Cymru fel ffordd o gefnogi unigolion sydd mewn perygl o hunan-niweidio trwy eu helpu i nodi rhybuddion, datblygu strategaethau ymdopi, a chael cymorth pan fo angen.
Caiff yr ysgol ei chydnabod fwyfwy fel lleoliad pwysig ar gyfer ymyrraeth gynnar oherwydd bod staff yn aml ymhlith y gweithwyr proffesiynol cyntaf i sylwi bod pobl ifanc o bosibl yn cael trafferth. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn argymell bod ysgolion yn gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu cynlluniau diogelwch fel rhan o ddull ysgol gyfan ehangach o ymdrin â lles emosiynol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae tystiolaeth yn gyfyngedig ar y ffordd orau i gyflwyno cynllunio diogelwch mewn ysgolion, sut y gellir ei integreiddio i systemau ysgol presennol, a pha staff cymorth sydd eu hangen i’w weithredu’n ddiogel ac yn gyson.
Nod y prosiect yw mynd i’r afael â’r bylchau hyn drwy ddatblygu ymyrraeth ysgol gyfan i gefnogi cyflwyno cynllunio rheoli diogelwch hunan-niweidio mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru.
Nod(au) ac amcanion
Nod yr astudiaeth yw datblygu ymyrraeth ar gyfer gweithredu cynllunio rheoli diogelwch mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru i ddarparu ymyrraeth gynnar i bobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio. Disgwylir i’r ymyrraeth ganolbwyntio ar bobl ifanc 11-16 oed, ac ystyried hefyd anghenion disgyblion sy’n pontio i’r ysgol uwchradd.
Er mwyn cyflawni’r nod, bydd yr astudiaeth yn mynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil canlynol:
CY1: Sut mae cyd-destun yr ysgol uwchradd yn dylanwadu ar hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc?
CY2: Beth sy’n fodel ymarferol, derbyniol ac o bosibl effeithiol ar gyfer cyflwyno cynllunio rheoli diogelwch mewn ysgolion uwchradd?
CY3: Pa gydrannau ymyrraeth ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau bod cynllunio rheoli diogelwch mewn ysgolion uwchradd yn ymarferol, yn dderbyniol ac o bosibl yn effeithiol (e.e. hyfforddi staff)?
CY4: Sut mae integreiddio cynllunio rheoli diogelwch mewn ysgolion uwchradd i’r llwybr gofal iechyd ehangach?
CY5: Sut mae cyflwyno cynllunio rheoli diogelwch mewn ysgolion uwchradd mewn modd cynhwysol, cyfartal a diogel sy’n osgoi risg o niwed?
CY6: Beth sy’n ddull ymarferol, derbyniol a gwyddonol gadarn ar gyfer cynhyrchu data ar hunan-niweidio mewn ysgolion uwchradd (e.e. SHRN), a sut y gellid defnyddio’r data hwn fel rhan o werthusiad yn y dyfodol?
Cynllun yr Astudiaeth
Mae’r astudiaeth yn glynu wrth gam cyntaf canllawiau’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar Ddatblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth.
Mae’r ymchwil yn mabwysiadu dull cymysg ansoddol sy’n cynnwys pedwar pecyn gwaith a gaiff eu cyflwyno dros 24 mis yr astudiaeth:
- Adolygiad systematig ansoddol a synthesis thematig o dystiolaeth ar ddylanwad yr ysgol ar hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc
- Cyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws gydag ysgolion uwchradd mewn astudiaethau achos a’r rheini sydd â diddordeb yn y system i greu dealltwriaeth leol o’r hyn sy’n achosi hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc, mecanweithiau posibl ar gyfer targedu hunan-niweidio, a’r nodweddion cyd-destunol a all atal neu hwyluso gweithrediad yr ymyrraeth.
- Gweithdai cyd-gynhyrchu i ddatblygu’r ymyrraeth a’i theori rhaglen sylfaenol, wedi’u llywio gan ganfyddiadau pecyn gwaith 1 a phecyn gwaith 2.
- Mireinio a chadarnhau model a deunyddiau gweithredu’r ymyrraeth.
Caiff yr ymyrraeth ei datblygu drwy broses gyd-gynllunio, gan ddod â phobl ifanc, ymchwilwyr, ymarferwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghyd i sicrhau ei bod yn berthnasol, yn ymarferol ac yn ymateb i anghenion y byd go iawn.
Bydd Grŵp Cynghori Prosiect Pobl Ifanc yn helpu i sicrhau bod deunyddiau, dulliau, canfyddiadau ac allbynnau’r astudiaeth yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pobl ifanc. Bydd Grŵp Cynghori Prosiect Polisi ac Ymarfer, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o feysydd addysg, iechyd, llywodraeth, sefydliadau’r trydydd sector a rhieni/gofalwyr, yn darparu cyngor strategol ar berthnasedd i bolisi ac ymarfer. Bydd Partneriaid Ymchwil Cyhoeddus a Phroffesiynol hefyd yn cyfrannu at lywodraethu, cynllunio gweithredu, lledaenu a gweithgareddau effaith y prosiect.
Gyda’i gilydd, bydd y grwpiau hyn yn helpu i sicrhau bod yr ymyrraeth yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ymarferol, yn dderbyniol ac yn berthnasol i ysgolion uwchradd ledled Cymru.
Dyddiad dechrau
01/10/2026
Dyddiad gorffen
01/10/2028
Ariannu
Caiff y prosiect ei ariannu drwy Gynllun Ariannu Integredig Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae manylion y cyhoeddiad ariannu ar gael yma.
Swm
£396,901