
Bydd yr Athro Evans yn arwain y rhaglen datblygiad personol a phroffesiynol ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Mae’r Athro Rhiannon Evans, Athro yn y Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd, wedi’i phenodi’n Arweinydd Academaidd newydd Crwsibl Cymru. Rhiannon yw Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Iechyd y Cyhoedd DECIPHer a Thîm Adolygiadau Systematig Ymchwil Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Wrth fyfyrio ar ei phenodiad, dywedodd Rhiannon: “Mae’n fraint llwyr dod yn Arweinydd Academaidd Crwsibl Cymru. Ar adeg pan fo prifysgolion dan bwysau cynyddol, mae’n bwysicach nag erioed bod rhaglenni fel hyn yn bodoli. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth feithrin talent a chydweithio a chreu cyfleoedd i ymchwilwyr ddatblygu rhwydweithiau cefnogol ledled disgyblaethau a sefydliadau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm Crwsibl Cymru, cyn-fyfyrwyr a chyfranogwyr y dyfodol i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ffynnu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil.”
Mae Rhiannon yn olynu’r Athro Jon Gillard, cyn-fyfyriwr Crwsibl Cymru, a Phennaeth Ysgol y Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol newydd. Ers 2011, mae Crwsibl Cymru wedi cefnogi arweinwyr ymchwil sy’n dod i’r amlwg ledled Cymru, gan ddod â 30 o ymchwilwyr ynghyd bob blwyddyn i ddatblygu sgiliau arwain, creu rhwydweithiau ac annog cydweithio arloesol, trawsddisgyblaethol. Darllenwch ragor o wybodaeth am y rhaglen a sut i wneud cais.
Darllenwch ragor o wybodaeth am y rhaglen a sut i wneud cais.
Darllenwch flog y Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer, Dr Hayley Reed, am fod yn rhan o garfan 2024: https://decipher.uk.net/blog/dr-hayley-reed-welsh-crucible-and-me/.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Brifysgol Caerdydd.