Mae Amy Simpson, sy’n fyfyriwr PhD, yn ystyried y dulliau rydym yn eu defnyddio i gefnogi a thyfu ymchwil addysg
Fel rhan o interniaeth chwe mis yn Llywodraeth Cymru, cynhaliais adolygiad o dystiolaeth o’r enw Datblygu gallu a maint ymchwil addysg ym maes addysg uwch: Adolygiad o dystiolaeth o wledydd astudiaeth achos a ddewiswyd. Roedd yr adolygiad o dystiolaeth yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth a chyfweliadau anffurfiol â rhanddeiliaid yn y system addysg o bob un o’r gwledydd astudiaeth achos. Mabwysiadodd yr adolygiad ddull astudiaeth achos daearyddol lle archwiliwyd gallu a maint ymchwil addysgol mewn chwe gwlad astudiaeth achos (Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Seland Newydd, Ontario a’r Emiradau Arabaidd Unedig).
Ar ôl dadansoddi strategaethau gallu ymchwil addysg a arweinir gan y llywodraeth ochr yn ochr ag archwilio strategaethau prifysgolion unigol i gefnogi’r gwaith o feithrin gallu a maint ymchwil, deuthum i werthfawrogi bod y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd yn rhoi amrywiaeth o fentrau, strategaethau a rhaglenni ar waith i gefnogi’r gwaith o feithrin y gallu i ymchwilio. Yn dilyn hynny, ychwanegais y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd fel astudiaeth achos penodol i Gymru yn yr adolygiad o dystiolaeth. Er mai prif ddiddordeb y ganolfan yw iechyd y cyhoedd, mae cysylltiad cynhenid rhwng iechyd ac addysg, ac felly cynhelir llawer o ymchwil y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd yn yr ysgol. Ar ben hynny, mae llawer o waith y ganolfan yn cynnwys cydweithio â’r rheini yn y system addysg, neu ymchwilio iddynt, boed hynny’n bobl ifanc eu hunain, staff ysgolion neu’r rheini yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r rhwydwaith, y rhaglenni a’r mentrau canlynol yn darparu 10 enghraifft o’r ffyrdd y mae’r ganolfan yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu maint a gallu ymchwil:
1. Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd
Mae’r ganolfan wedi datblygu tri rhwydwaith effaith uchel – Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd, Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a Chyngor yn Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd – gan weithio gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr yn ystod camau cynnar yr ymchwil i greu cwestiynau ymchwil a hyrwyddo arbrofion naturiolaidd. Er 2005, mae’r dull hwn wedi sicrhau £50 miliwn o incwm ymchwil drwy weithredu ac annog y strategaethau canlynol:
- Sefydlu partneriaethau strategol lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Datblygu gallu trawsddisgyblaethol drwy ddarparu cyrsiau byr a lleoliadau.
- Cymryd rhan mewn ymchwil a’i chydgynhyrchu drwy grwpiau datblygu ymchwil.
- Gwaith peilot gyda gweithleoedd megis Iechyd Cyhoeddus Cymru.
2. Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN)
SHRN yw’r rhwydwaith mwyaf o’i fath yn y byd ac mae’n dod ag ysgolion uwchradd prif ffrwd yng Nghymru, ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisïau ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol at ei gilydd i hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o wella iechyd a llesiant pobl ifanc yn lleoliad yr ysgol. Mae’r rhwydwaith wedi recriwtio’r holl ysgolion uwchradd prif ffrwd a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru ac mae rhai ysgolion annibynnol wedi dewis dod yn aelodau. Bob dwy flynedd, mae’r ysgolion rhwydwaith yn cwblhau’r Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr dwyieithog a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol. Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn cysylltu ac yn dosbarthu canfyddiadau ymchwil drwy sesiynau briffio ymchwil ysgolion unigol, adroddiadau cenedlaethol cyfanredol, gweminarau a chylchlythyrau bob tymor.
3. Cyngor yn Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd (ALPHA)
Grŵp cynghori sy’n cynnwys grŵp o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy’n byw yng Nghymru yw ALPHA, sydd wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd. Mae ALPHA yn cynghori ymchwilwyr drwy drafod a dadlau eu barn ar feysydd iechyd cyhoeddus a chynlluniau’r ymchwilwyr. Swyddog cynnwys y cyhoedd sy’n rhedeg ALPHA yn bennaf, gyda chymorth gweithiwr ieuenctid. Mae ALPHA wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys ymchwil ar hysbysebu alcohol, atal cyffuriau, hyrwyddo iechyd mewn ysgolion, iechyd rhywiol, hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae ALPHA hefyd yn weithredol ar gyfryngau cymdeithasol ac mae ganddo gyfrif Twitter lle mae’n cysylltu ag academyddion, llunwyr polisïau a’r cyhoedd, ac yn dosbarthu gwybodaeth iddynt.
4. Grŵp Datblygu Ymchwil
Mae gan y ganolfan bedair rhaglen ymchwil a meysydd blaenoriaeth y mae ymchwilwyr arweiniol sy’n arbenigwyr ym mhob maes yn eu goruchwylio. Cynhelir cyfarfodydd misol gan ganolbwyntio ar un o’r rhaglenni ymchwil, ac mae’r cyfarfodydd yn rhoi cyfle i drafod hynt y prosiectau a datblygu ceisiadau grant. Mae’r pedwar maes fel a ganlyn:
Polisi Cyhoeddus Iach
Lleoliadau a Sefydliadau Iach
Cydberthnasau Cymdeithasol Iach
Arloesi Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus
5. Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP)
Mae CUROP yn rhaglen sydd ar waith drwy’r brifysgol sy’n cynnig lleoliadau haf i fyfyrwyr israddedig mewn amgylchedd ymchwil prifysgol, gan weithio dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil a ddiffinnir gan y staff. Mae’r lleoliad yn cynnig profiad gwaith â thâl i israddedigion. Mae’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd wedi croesawu llawer o fyfyrwyr CUROP, gan gynnig cyfle iddynt fynychu a chymryd rhan mewn gweithgareddau ffurfiol ac academaidd yn y ganolfan (e.e. fforymau’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd a Seminarau Her Iechyd Cymru), yn ogystal ag elwa ar gyfoeth o arbenigedd damcaniaethol a methodolegol. Mae blogiau ar leoliadau CUROP myfyrwyr ar gael yma.
6. Grŵp Mentora PhD
Caiff y grŵp mentora PhD ei hwyluso gan ymchwilydd gyrfa gynnar yn y ganolfan ac mae’n cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig ac yn rhoi arweiniad iddynt. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob yn ail fis; mae’r pynciau trafod blaenorol wedi cynnwys sut i ysgrifennu papur academaidd, a sut i fformatio a strwythuro traethawd ymchwil.
7. Cefnogi datblygiad gyrfa staff ymchwil
Cefnogir datblygiad gyrfa staff ymchwil mewn sawl ffordd. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Mae ceisiadau grant a arweinir gan y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd gwerth £500k neu lai fel arfer yn cynnwys o leiaf un ymchwilydd iau fel cyd-ymchwilydd.
Mae’r staff ôl-ddoethurol fel arfer yn ennill profiad o nifer bach o brosiectau fel staff neu ymchwilydd penodol, ac fe’u cefnogir i wneud cais am gymrodoriaethau personol, gan gynnig cyfleoedd i’w paratoi i arwain eu gwaith annibynnol eu hunain.
Mae gan y ganolfan arweinydd addysgu a arweinir gan ymchwil sy’n goruchwylio cyfraniad addysgu’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd yn strategol, ac yn rheoli dyraniad addysgu mewnol y ganolfan.
8. Cynnal lleoliadau a secondiadau i fyfyrwyr ac ymarferwyr
Mae’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd yn cynnal amrywiaeth o leoliadau a secondiadau i fyfyrwyr ac ymarferwyr.
Lleoliadau Rhyngwladol:
Mae’r ganolfan yn croesawu myfyrwyr ac academyddion o bob cwr o’r byd.
Lleoliad a secondiadau deugyfeiriol: Anogir myfyrwyr a staff academaidd i gael lleoliadau a secondiadau mewn sefydliadau allanol.
Cydleoli ymchwilwyr: Mae’r ganolfan yn annog cydleoli academyddion mewn ysgolion yn y brifysgol, yn ogystal â chydleoli academyddion a myfyrwyr mewn sefydliadau allanol, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru.
9. Cyrsiau byr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd
Mae’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd yn cynnal tri chwrs byr yn flynyddol: Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Iechyd Cyhoeddus Cymhleth, Gwerthuso Prosesau Ymyriadau Cymhleth a Hyfforddiant Cynnwys y Cyhoedd. Mae canllawiau methodolegol a ddatblygwyd gan y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd wedi arwain at ddarparu cyfleoedd i ddatblygu gallu ymchwil drwy hyfforddiant i academyddion a rhanddeiliaid polisi ac ymarfer.
10. Gwefan a chyfrif Twitter y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd
Mae’r ganolfan yn cydnabod pwysigrwydd presenoldeb ar-lein drwy wefan a chyfrif Twitter y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd. Mae’r wefan ddwyieithog yn rhoi trosolwg o’r ganolfan, ei rhwydweithiau, ei nodau ymchwil, ei chyhoeddiadau a’i chyrsiau byr a bywgraffiadau staff academaidd y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd a thiwtoriaid myfyrwyr ôl-raddedig.
Bydd mwy o fanylion ar feithrin y gallu i ymchwilio yng Nghymru ar gael yn yr adolygiad llawn o’r dystiolaeth sydd wedi cyfrannu at y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymchwiliad Addysg.