Mynd i'r cynnwys
Home » Arloesiadau yn Defnyddio Iechyd Symudol i Bobl â Dementia a Chyd-forbidrwydd

Arloesiadau yn Defnyddio Iechyd Symudol i Bobl â Dementia a Chyd-forbidrwydd

  • Ymchwil

Ymgeiswyr Ymchwil

Dr Christopher Butler (Joint Lead Applicant) 

Professor Jaime Miranda (previous Joint Lead Applicant) 

Dr Maria Sofia Cuba-Fuentes (current Joint Lead Applicant) 

Dr Filipa Landeiro (Co-Applicant, Work Package Lead) 

Professor José Oliden (Co-Applicant) 

Mr Carlos Vera Tudela Melgarejo (Co-Applicant) 

Mrs Maria Kathia Cárdenas (Work Package Lead) 

Dr Antonio Bernabe-Ortiz (Work Package Lead) 

Dr Maria Lazo-Porras (Work Package Lead)      

Dr Jemma Hawkins (Work Package Lead)                     

Professor Graham Moore (Work Package Lead) 

Mr Francisco Diez-Canseco  

Professor Rafael Calvo 

Dr Nilton Custodio  

Dr Maria Amalia Pesantes  

Dr William Whiteley  

Professor German Málaga 


Aelodau eraill o’r tîm ymchwil

Cecilia Anza 

Marco Da Re 

Fernanda Espinoza 

Miriam Lúcar   

Rosa Montesinos 

Micaela Pesantes

Francisco Tateishi Serruto

Lee White 


Cefndir

Nid yw systemau iechyd mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig wedi’u harfogi’n dda i ymdopi â phoblogaethau sy’n heneiddio’n gyflym a’r clefydau cronig cysylltiedig. Mae dementia yn broblem benodol ym Mheriw ac yn herio’r system iechyd mewn sawl ffordd. Yn aml, mae gan bobl â dementia broblemau iechyd eraill hefyd (cyd-forbidrwydd) nad ydynt yn cael eu trin, sy’n achosi dioddefaint ac yn costio arian. Nid oes llawer o seilwaith gofal cymdeithasol o gwbl a chaiff gofal ei ddarparu bron yn gyfan gwbl gan aelodau o’r teulu sydd dan ormod o bwysau. Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n benodol ar yr henoed a’r rhai sydd â namau gwybyddol ym Mheriw, sydd â’r gyfradd marwolaeth uchaf y pen o COVID ledled y byd. Ein nod yw cryfhau’r system iechyd ym Mheriw i fodloni’r heriau sy’n cael eu hamlygu gan ddementia trwy ddefnyddio technoleg a gweithwyr iechyd cymunedol hyfforddedig i ddod â diagnosis, triniaeth a chymorth arbenigol i’r man lle mae eu hangen, sef cartrefi cleifion a gofalwyr.


Nodau ac Amcanion

Bydd prosiect IMPACT yn defnyddio dementia fel cyflwr olrhain i gryfhau systemau iechyd yn America Ladin trwy arloesedd cynaliadwy, integredig, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n cael ei ddarparu yn y gymuned ac sydd wedi’i alluogi gan dechnoleg. Ein hamcanion penodol yw:

i) gwerthuso parodrwydd systemau iechyd i ddarparu cymorth i bobl â dementia;

ii) datblygu a gweithredu cymhwysiad iechyd symudol ar gyfer rhoi diagnosis o ddementia gan weithwyr iechyd cymunedol ym Mheriw;

iii) penderfynu pa mor ymarferol y mae ymyrraeth iechyd symud, wedi’i chefnogi gan weithwyr iechyd cymunedol i wella ansawdd bywyd pobl â dementia a’u gofalwyr;

iv) asesu baich economaidd-gymdeithasol dementia ym Mheriw.


Dyluniad yr Astudiaeth

Mae ein tîm rhyngddisgyblaethol cryf yn cynnwys ymchwilwyr, llunwyr polisi a chynrychiolwyr cymunedol sy’n cydweithio â’i gilydd ar draws 5 pecyn gwaith rhyng-gysylltiedig.

Bydd Pecyn Gwaith 1 (Parodrwydd y System Iechyd) yn asesu anghenion pobl â dementia a’u gofalwyr a pharodrwydd y system iechyd ym Mheriw i fodloni’r anghenion hynny. Bydd yr offerynnau sy’n cael eu datblygu yn cael eu defnyddio mewn 3 gwlad arall yn America Ladin.

Bydd Pecyn Gwaith 2 (Diagnosis) yn cyd-gynhyrchu ap iechyd symudol ar gyfer gweithwyr iechyd cymunedol i ddod o hyd i achosion o ddementia a chofnodi cyd-forbidrwydd. Byddwn yn gwerthuso derbynioldeb a chywirdeb yr ap hwn mewn 1,600 o bobl â dementia a rheolyddion mewn pedwar rhanbarth gwahanol ym Mheriw: sef y brifddinas (Lima), rhanbarth lled-drefol arfordirol, mynyddoedd yr Andes y jyngl yr Amazon. Byddwn yn profi integreiddio’r ap mewn gofal iechyd sylfaenol.

Bydd Pecyn Gwaith 3 (Ymyrraeth) yn addasu ymyrraeth iechyd symudol bresennol, a ddatblygwyd yn yr Unol Daleithiau, ar gyfer cyd-destun Periw. Bydd yr ymyrraeth yn cynnwys cymorth i reoli cyd-forbidrwydd, cymhelliant ar gyfer ymarfer corff a gweithgareddau grŵp a chymorth i ofalwyr. Caiff ei weithrediad ei asesu mewn astudiaeth dichonolrwydd.

Bydd Pecyn Gwaith 4 (Economeg Iechyd) yn amcangyfrif baich economaidd ac effaith dementia a chyd-forbidrwydd ar ansawdd bywyd, gan ddefnyddio holiaduron i bobl â dementia a’r rheolyddion a nodir ym Mhecyn Gwaith 2.

Bydd Pecyn Gwaith 5 yn goruchwylio’r holl weithgareddau rheoli prosiect ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned ehangach i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â stigma.


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau

Project website: https://www.impact-dementia.org/

Peru initiates the IMPACT project https://www.thelancet.com/journals/laneur/article/PIIS1474-4422(23)00239-9/fulltext – The Lancet Neurology


Dyddiad cychwyn

1st Tachwedd 2022

Dyddiad Gorffen

31st Hydref 2026

Arianwyr

National Institute for Health Research Global Health Policy and Systems Research (Global HPSR) Programme – Researcher-led Awards

Swm

£ 3,868,869.73