Prif Ymchwilyddai
Yn ystod deng mlynedd gyntaf DECIPHer, datblygodd y ganolfan arbenigedd cynhwysfawr a hanes rhagorol o ymchwil i effaith strwythurau teuluol a pherthnasoedd ar iechyd a lles. Roedd enghreifftiau o astudiaethau’n cynnwys: astudiaethau dichonoldeb a gwerthuso deilliannau rhaglenni atal camddefnyddio sylweddau i deuluoedd; astudiaethau ansoddol yn archwilio profiadau gofalwyr maeth a phreswyl o reoli hunan-niweidio a hunanladdiad gan bobl ifanc; a datblygiad ymyriadau i gysylltu ysgolion a theuluoedd ac addasu a gwerthuso ymyriadau i gefnogi pobl â dementia a’u gofalwyr teulu.
I gyfnerthu’r arbenigedd a’r profiad cyfunol hwn, mae DECIPHer wedi sefydlu rhaglen ymchwil o’r enw ‘Perthnasoedd Cymdeithasol Iach’. Doctor Rhiannon Evans a Doctor Jeremy Segrott sy’n arwain y rhaglen. Mae astudiaethau’n gysylltiedig â’r themâu hyn yn croestorri â blaenoriaethau rhaglenni eraill DECIPHer ac fe’u cefnogir gan arloesedd methodolegol ar draws y ganolfan.
Mae meithrin gallu ar gyfer y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu Ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys Cymrodoriaethau Ymchwil Ôl-ddoethurol ac Ysgoloriaethau PhD. Hyd yn hyn, mae ysgoloriaethau PhD wedi mynd i’r afael â: phrofiadau ac anghenion gofalwyr ifanc; ymyriadau i gefnogi iechyd meddwl a lles gofalwyr sy’n berthnasau; datblygu a gwerthuso ymyrraeth i ddarparu maeth a gweithgareddau corfforol yn ystod gwyliau ysgol; a phrofiadau ac anghenion darpar dadau.
Mae ymgysylltu ac effaith yn flaenoriaeth ganolog i’r rhaglen. Mae’n gweithio’n agos gydag ALPHA a Lleisiau CASCADE.
-
“Ymdeimlad o gariad a gwerthfawrogiad”: Astudiaeth dulliau cymysg i archwilio perthnasoedd ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cysylltiad ag iechyd meddwl a lles
-
(FLOURISH) Hyrwyddo Iechyd Gydol Oes sy’n Canolbwyntio ar Deuluoedd a’r Glasoed
-
Adferiad Teulu ar ôl Cam-drin Domestig (FReDA): Treial dichonoldeb a gwerthusiad proses nythog o ymyrraeth seico-addysgol grŵp i blant sydd wedi dod i gysylltiad â thrais a cham-drin domestig
-
Astudiaeth 3P – Cyflwyno Rhaglen Rhianta Grŵp Triple P o Bell: Optimeiddio a Threial Rheoledig Dichonoldeb ar Hap CHILDR
-
Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
-
Cryfhau systemau cymorth cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc sy’n fudwyr a phobl ifanc sy’n ffoaduriaid, ym maes addysg uwchradd (SURE)
-
Darpariaeth iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau AB (11-25 oed) sydd â phrofiadau o ofal: Astudiaeth dull cymysg o weithrediad, derbynioldeb, angen a chanlyniadau blaenoriaeth
-
Datblygu ymyriad i leihau blinder tosturi ymhlith staff wardiau iechyd meddwl pobl ifanc (PhD)
-
Family VOICE: Cynadledda grŵp teuluol i blant a theuluoedd
-
Gwerthusiad o ‘Step Up Step Down’
-
Ymchwilio i bwysau academaidd fel ffactor risg ar gyfer iselder glasoed, er mwyn llywio datblygiad ymyriadau ysgol gyfan
Astudiaethau hanesyddol:
CHETS III – Iechyd plant, e-sigaréts a mwg tybaco: Astudiaeth dull-cymysg
Establishing priorities and feasibility of interventions for children and families in Solace refuges. (SOLACE)
Health Pathfinder Evaluation (SafeLives)
Meithrin ysgolion iach yn feddyliol – beth yw’r cynhwysion actif?
Plant mabwysiedig sy’n dychwelyd i ofal yng Nghymru: Safbwyntiau gweithwyr cymdeithasol
Transdisciplinary Research for the Improvement of Youth Mental Public Health (TRIUMPH NETWORK)