Prif Ymchwilydd
Dr Kelly Morgan
Cyd-gyfrannwr
Yr Athro Graham Moore
Cefndir
Bydd y prosiect arfaethedig yn gwerthuso gweithrediad ôl-dreial ac effeithiolrwydd clinigol tymor hir Cynllun Cenedlaethol Cymru i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ar draws pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Mae anweithgarwch corfforol yn un o brif achosion salwch y gellir ei atal ac yn gost sylweddol i’r GIG. Yng Nghymru, nid yw 71% o oedolion yn ddigon egnïol. Mae cynyddu gweithgarwch corfforol ar lefel y boblogaeth, ac ymhlith grwpiau risg, yn flaenoriaeth o ran iechyd y cyhoedd. Er bod gwerthusiad cynharach o’r Cynllun Atgyfeirio’n datgelu effeithiau addawol ar weithgarwch corfforol hunan-gofnodedig a chanlyniadau iechyd meddwl ar ôl 12 mis, nid yw cywirdeb gweithredu parhaus ac effeithiolrwydd hirdymor ar ganlyniadau iechyd yn hysbys; mae deall y gwaith o gynnal gweithrediad ac effeithiau ymyriadau ar sail tystiolaeth yn fwlch empirig mawr mewn llenyddiaeth iechyd cyhoeddus. Mae’r dystiolaeth hyd yma’n awgrymu na chaiff ymyriadau ar sail tystiolaeth eu mabwysiadu’n aml, neu y cânt eu mabwysiadu gydag ansawdd a chywirdeb annigonol yn dilyn treialon o’u heffeithiolrwydd. At hynny, mae’n bosibl bod defnyddio canlyniadau hunan-gofnodedig wedi golygu bod y data’n cynnwys gwallau a bod angen gwneud gwaith dilynol yn y tymor hirach gyda chyfranogwyr er mwyn dangos gwelliannau sylweddol mewn amrywiaeth o ganlyniadau iechyd.
Mae’r cynnig hwn yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru sy’n nodi gweithgarwch corfforol fel maes blaenoriaeth. Mae’n mynd i’r afael ag argymhellion ymchwil NICE, yn ogystal ag argymhellion cyflenwi gwasanaethau Adolygiad Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo effaith y Cynllun Atgyfeirio drwy arloesi ac ymchwil.
Nodau ac Amcanion
Nod cyffredinol yr astudiaeth yw gwerthuso gweithrediad tymor hir y Cynllun Atgyfeirio ledled Cymru ac ystyried effeithiolrwydd clinigol tymor hir y cynllun, er mwyn mesur cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd y cynllun cenedlaethol. Dyma’r amcanion:
1: Archwilio profiadau o weithredu’r rhaglen ers gwerthuso’r rhaglen a’i chyflwyno’n genedlaethol (ymchwilio i dderbynioldeb, ymlyniad, cywirdeb a dos cyflwyno cydrannau craidd y rhaglenni).
2: Edrych ar effeithiolrwydd tymor hir cyfranogiad yn y Cynllun Atgyfeirio o ran canlyniadau iechyd cleifion a’r defnydd o’r gwasanaeth iechyd ar 3 phwynt dilynol.
Cynllun yr Astudiaeth
Cynllun Ymchwil
Bydd yr ymchwil yn cynnwys dau gam; 1) cynhelir cyfweliadau strwythuredig/lled-strwythuredig i archwilio profiadau a safbwyntiau ar weithrediad y rhaglen gydag ystod eang o randdeiliaid; 2) dadansoddi data eilaidd o ddata arferol y Cynllun Atgyfeirio a chofnodi cysylltiadau â chofnodion iechyd arferol dienw. Bydd defnyddio paru sgoriau tuedd yn golygu bod modd cymharu canlyniadau iechyd tymor hir rhwng cleifion sy’n rhan o’r Cynllun Atgyfeirio a rhai nad ydynt yn rhan ohono.
Lleoliad/cyd-destun
Cyflwynir y Cynllun Atgyfeirio mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys canolfannau hamdden sy’n eiddo i’r cyngor a champfeydd preifat. Ar gyfer y prosiect hwn, cesglir data gan weithredwyr y cynllun (h.y. cydlynydd cenedlaethol a chydlynwyr ardal y Cynllun Atgyfeirio) ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol ac is-sampl o atgyfeirwyr y cynllun, hyfforddwyr y cynllun a rheolwyr hamdden. Caiff data a gesglir fel mater o drefn ei ddadansoddi ar gyfer holl gyfranogwyr y Cynllun Atgyfeirio a atgyfeiriwyd drwy lwybr generig y Cynllun.
Cyhoeddiadau
Morgan, K.; Rahman, M.; Moore, G. Patterning in Patient Referral to and Uptake of a National Exercise Referral Scheme (NERS) in Wales From 2008 to 2017: A Data Linkage Study. Int. J. Environ. Res. Public Health 2020
Morgan, K; Lewis, J; Hawkins, J; Moore, G. From a research trial to routine practice: stakeholders’ perceptions and experiences of referrals to the National Exercise Referral Scheme (NERS) in Wales. BMC Health Services Research 2021
Dyddiad dechrau
Hydref 2016
Dyddiad gorffen
Mehefin 2020
Arianwyr
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru — Cymrodoriaeth Iechyd
Swm
£275,845