Mynd i'r cynnwys
Home » Cymru Iach ar Waith am lansio offer gwerthuso

Cymru Iach ar Waith am lansio offer gwerthuso

Ers 2019, mae DECIPHer a Cymru Iach ar Waith wedi cydweithio i greu offer asesu anghenion iechyd a lles ar-lein i ddeall, hysbysu a gwerthuso iechyd yn y gweithle yng Nghymru.
Bydd yr offer yn lansio eleni.

Cefndir


Fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, nod rhaglen Cymru Iach ar Waith yw cefnogi ac annog cyflogwyr i greu amgylcheddau gwaith iach, cymryd camau i wella iechyd a lles eu staff, rheoli absenoldeb salwch yn dda ac ymgysylltu â gweithwyr yn effeithiol. Fel rhan o’r model cyflawni Cymru Iach ar Waith newydd, rhagwelwyd y byddai dau offeryn gwerthuso’n cael eu creu i gyflogwyr unigol eu defnyddio gyda’i gilydd:

  • Offeryn ‘y gweithiwr’ i asesu iechyd a lles y gweithlu;
  • Offeryn ‘y cyflogwr’ i asesu’r parodrwydd yn y gweithle i weithredu dulliau iechyd a lles.

Yr Amcanion


Comisiynwyd tîm yn DECIPHer fel y partner gwerthuso i ddatblygu cynnwys a fformat y ddau offeryn hyn trwy broses o ymgynghori a phrofi peilot gyda sefydliadau Cymreig.

Amcanion y gwaith hwn oedd:

  • Archwilio barn ac anghenion cyflogwyr er mwyn sefydlu parthau blaenoriaeth ar gyfer y broses asesu o fewn yr offer;
  • Cynnal awdit dulliau i nodi mesurau addas i’w cynnwys yn yr offer; Creu fersiynau drafft o’r offer a’u profi gyda chyflogwyr Cymreig a’u gweithwyr er mwyn hysbysu coethder a dyluniad terfynol yr offer.


O ganlyniad i ddyfodiad pandemig COVID-19, gohiriwyd y profion peilot ar yr offer drafft tan haf 2021. Cyn hyn, cafodd yr offer eu hadolygu yn gynnar yn 2021 i ymgorffori cwestiynau perthnasol sy’n ystyried effaith y pandemig ar fywydau gweithwyr.

Deilliant


Mae Cymru Iach ar Waith wedi dechrau cyflwyno fersiwn y cyflogwr o’r offer gyda’u deiliaid gwobrau presennol ac maent yn y broses o fformatio platfform gwe i gynnal y ddau fersiwn o’r offer a rhoi adborth i gyflogwyr. Dywed Dr Jemma Hawkins, a arweiniodd yr ymchwil yn DECIPHer: ‘Rydym yn gweithio’n agos gyda Cymru Iach ar Waith i gefnogi’r gwaith o archwilio swyddogaethau adrodd awtomataidd a sut y gellir meincnodi data yn erbyn data cenedlaethol Cymru a’r DU.’

Dywed Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd rhaglenni iechyd a gwaith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Bydd ein hoffer ar-lein yn ganolog i’n gwaith ymgysylltu â chyflogwyr yn y dyfodol. Byddant yn galluogi sefydliadau i ddeall anghenion eu gweithlu yn well yn ogystal â blaenoriaethu camau gweithredu i wella iechyd a lles.’

‘Bydd Cymru Iach ar Waith yn canolbwyntio ei hadnoddau mewn cynnig rhithiol, gyda darpariaeth ar-lein newydd a fydd yn helpu cyflogwyr i fesur a gwella eu strategaethau iechyd a llesiant i’w gweithwyr. Bydd ein cynnig ar-lein yn cynnwys gweminarau, e-ddysgu, a chymorth ac arweiniad penodol ar gyfer cyflogwyr er mwyn iddynt allu cymryd camau yn eu prif feysydd blaenoriaeth.

Datganiad llawn: Datganiad Ysgrifenedig: Y Diweddaraf am Cymru Iach ar Waith (28 Mehefin 2023) | LLYW.CYMRU

Bydd DECIPHer yn parhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau wrth iddynt gael eu cyflwyno.

I gael rhagor o wybodaeth am Cymru Iach ar Waith, cliciwch yma.

Tagiau: