Prif Ymchwilydd
Yr Athro Laurence Moore
Cyd-Ymchwilwyr
Dr Katy Tapper; Yr Athro Simon Murphy; Yr Athro Ronan Lyons; Yr Athro David Benton
Cefndir
Gwerthusodd
DECIPHer Fenter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd, Llywodraeth Cymru. Yn flaenorol, cynhaliwyd dadansoddiadau atchweliad ar lefel ysgol, gan archwilio effeithiau crynswth yr ymyriad ar drawstoriadau niferus o blant o bob un o’r ysgolion hyn.
Nodau ac Amcanion
Ychwanegiad a dadansoddiad eilaidd o ddata i sicrhau gwybodaeth bellach bwysig am effeithiolrwydd y fenter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd, ac yn arbennig ar effaith y fenter ar wahaniaethau economaidd-gymdeithasol o ran diet, gwybyddiaeth a pherfformiad yn yr ysgol.
Diwyg yr Astudiaeth
Dadansoddiad ystadegol eilaidd
Nodi pob myfyriwr sy’n cymryd rhan a thrwy’r system Cyswllt Data Dienw Diogel (SAIL), cael gwybodaeth ynghylch statws hawl i brydau ysgol am ddim cyfredol, data perfformiad TASau a TGAU yn y dyfodol, a chôd post preswylio. Yna defnyddiwyd y côd post i gael amrywiolion SES ar gyfer pob myfyriwr, ar gyfer ardal allbwn y cyfrifiad y mae eu cartref wedi’i leoli ynddi.
Mae’r data yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o ddiet plant o ran cymeriant macro a microfaetholion, yn rhoi dealltwriaeth o’r effeithiau mae’r ymyriad yn ei gael ar gymeriant maetholion plant.
Cyfrifo Cyfeirnod Cymeriant Dyddiol (RDI) ar gyfer pob macro a microfaethyn, yn seiliedig ar rywedd ac oedran.
Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau
Tudalen wybodaeth prosiect Prifysgol Caerdydd
Dyddiad dechrau
Mai 2009
Dyddiad gorffen
Mai 2011
Ariannwr
MRC
Swm
£210,890