Yn ei ddeng mlynedd gyntaf, cynhaliodd DECIPHer amrywiaeth o astudiaethau’n dylanwadu ar benderfyniadau polisi iechyd y cyhoedd cenedlaethol, ac yn gwerthuso’r penderfyniadau hyn. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwerthuso’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, sy’n parhau i gael ei weithredu ledled Cymru ddeng mlynedd ar ôl y treial, ac ymchwil y dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant. O 2020 ymlaen, bydd y rhaglen newydd, POLISÏAU DROS GYHOEDD IACH, yn adeiladu ar y gwaith hwn, gyda’r nod o ddylanwadu ar benderfyniadau gan fudiadau llywodraeth genedlaethol a lleol i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau, a gwerthuso sut caiff y penderfyniadau hyn eu gweithredu, a’u heffeithiau, ar yr un pryd.
Ac adeiladu ar ein hanes ym maes polisi tybaco a’i effeithiau ar gysylltiad pobl ifanc â thybaco a’u defnydd ohono, bydd meysydd polisi allweddol yn cynnwys rheoleiddio nwyddau nad ydynt yn iach. Bydd hyn yn cynnwys partneriaeth agos â chonsortiwm UKPRP, Shaping Public hEalth poliCies To RedUce harm (SPECTRUM), y mae eu tîm ymchwilwyr yn cynnwys dau aelod o dîm cyd-ymchwilwyr DECIPHer (Dr Graham Moore a Dr Julie Bishop).
Hefyd, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar effeithiau ar iechyd benderfyniadau polisi y tu hwnt i’r sector iechyd, gan gynnwys polisi addysg, gofal cymdeithasol a lles, yn cysylltu â thair rhaglen ymchwil arall DECIPHer. Bydd yn cysylltu â’r rhaglen Amgylchiadau Iach trwy waith sy’n canolbwyntio ar bolisi addysg, fel ymchwil sy’n mynd rhagddi i weithredu diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru. Bydd yn cysylltu â’r rhaglen Perthnasoedd Cymdeithasol Iach trwy waith sy’n canolbwyntio ar dlodi plant a cham-drin domestig; bydd arbenigwr blaenllaw ar bolisi cam-drin domestig, yr Athro Amanda Robinson, yn ymuno â thîm DECIPHer yn 2020. Hefyd, bydd y rhaglen hon yn rhoi enghreifftiau achos o arloesedd methodolegol ym maes gwerthuso polisïau ac ymchwil i weithredu polisïau, gan gysylltu â’n rhaglen addysgu ac ymchwil i fethodoleg.
Prif ffynhonnell ddata ar gyfer y pecyn gwaith hwn, y parheir ei ddefnyddio i ddylanwadu ar, a gwerthuso, polisïau’r llywodraeth, fydd arolygon dwyflynyddol Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sydd bellach yn cael eu cysylltu â data cyffredin trwy gronfa ddata SAIL. Bydd DECIPHer yn gweithio gyda chonsortiwm SPECTRUM i ymestyn arolygon misol y pecyn cymorth ar ysmygu ac alcohol o Loegr i Gymru, a gwneud y mwyaf o’u heffaith ar benderfyniadau polisi yng Nghymru.
Astudiaethau a fabwysiadwyd gan Raglen y Polisïau dros Gyhoedd Iach
Astudiaethau presennol neu ddiweddar iawn sy’n canolbwyntio ar bolisi:
-
Asesiad o Werthusadwyedd Fframwaith Cymru Heb Drais (WAVE)
-
Marwolaethau ymhlith y bobl hynny sydd wedi bod yn ddigartref: Adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad
-
Hyrwyddo gwybodaeth am y defnydd o ddata a thystiolaeth ynghylch iechyd a lles: Pecyn hyfforddiant i Gydlynwyr Ysgolion Iach (ADEPT – HSC)
-
Gwerthuso effeithiolrwydd e-sigaréts o’u cymharu â gofal arferol ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu pan gânt eu cynnig i ysmygwyr mewn canolfannau digartref: Hap-dreial rheoledig clwstwr aml-ganolfan ym Mhrydain Fawr (SCeTCH)
-
Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd (HDRC) – Rhondda Cynon Taf
-
Gweithredu a Gwerthuso Proses o Raglenni Ymyrraeth Trais yn Ysbytai De Cymru (PREVIP)
-
Effeithiau rheoleiddio e-sigaréts trwy Gyfarwyddeb Cynhyrchion Tybaco yr UE ar ddefnydd pobl ifanc o e-sigaréts: arbrawf naturiol -
SPECTRUM
-
Ydy gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau hydredol o garfan electronig ôl-weithredol
-
Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
-
Datblygu asesiad o Theori Newid a’r Gallu i Werthuso yn achos y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â Iechyd Meddwl
-
Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd NIHR – Timau Astudio sy’n Ymateb i Ymyriadau i Iechyd y Cyhoedd (PHIRST)
-
Integreiddio iechyd a lles yng nghwricwlwm yr ysgol: Ymchwiliad dulliau cymysg i’r paratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ledled Cymru a’i effeithiau ar iechyd a lles
Astudiaethau hanesyddol
‘Bwyd a Hwyl’ Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)
Gwerthuso’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghymru
Ymestyn a dadansoddi data Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd